Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Nwyddau Wedi Rhewi: Bioshock Infinite

Posted by Jeff the Fridge from Cardiff - Published on 04/04/2013 at 19:59
0 comments » - Tagged as School Holiday Activities, Sport & Leisure, Technology

  • bio1
  • bio2
  • bio2

English version // Yn Gymraeg

Mae Bioshock yn un o gemau gorau’r genhedlaeth hon, na erioed. Mae teithio drwy ddinas danddwr fudr Rapture yn brofiad sydd ddim eto wedi’i ddyblygu, hyd yn oed yn y dilyniant siomedig.

Roedd llawer o sylw wedi bod o amgylch Bioshock Infinite, gêm sydd bron yn amherthnasol i’r ddwy gêm gyntaf. Ar ôl ei gyhoeddiad yn 2010, mae ffans gemau saethu sydd ddim yn rhedeg-â-gynau difeddwl wedi bod yn disgwyl yn ddisgwylgar am gynnig newydd Irrational ar y bydysawd Bioshock. Felly, ydy Infinite yn ymateb i’r holl gyffro sydd wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf? Ydy o’n well na’r gwreiddiol? Ydy hi’n rhy fuan i alw hwn yn Gêm y Flwyddyn? Darllena ymlaen i ddarganfod mwy.

Mae’r lleoliad yn wastad wedi bod yn un o bwyntiau gwerthu gorau Bioshock. Mae Rapture wedi gosod ei hun i mewn yn hanes gemau gyda’i ‘Big Daddies’ a’i bontydd sy’n gollwng. Mae Infinite yn newid gwaelod y môr am gysur y cymylau. Wedi’i osod yn 1912, mae’r prif gymeriad Booker Dewitt yn teithio i’r ddinas propaganda Columbia yn America, hafan arnofiol i bopeth coch, gwyn a glas. A gyda hyn dwi’n golygu America, nid Ffrainc na Phrydain nac un o’r gwledydd eraill gyda fflagiau coch, gwyn a glas.

Mae hwn yn osodiad cŵl iawn i ffans ‘steampunk’, gan mai’r prif ddull o drafnidiaeth yn Columbia ydy blimps wedi’u pweru gan roced a cheffylau roboteg. Dwi’n meddwl fod hyn yn hardd iawn i’r llygad, gyda’r holl cogs a hetiau 'top hat', a dwi’n sicr bydd llawer o’r rhyngrwyd yn cytuno. Mae hyn yn gwneud awr gyntaf y gêm yn wych: yn cerdded drwy ardaloedd cyfoethog Columbia, yn rhyfeddu ar y stondinau tonig a’r pedwarawd siop barbwr yn canu caneuon Beach Boys. Mae’n wych am greu awyrgylch, ond efallai ychydig yn rhy araf i’r rhai sydd yn hoffi chwarae Call of Duty neu Halo. I’r bobl sydd yn meddu ar chwaeth dda (heb dramgwyddo ti os wyt ti’n treulio dy amser yn chwarae gemau cyffredin), mae’n sugno ti i mewn i’r byd a ddim yn gadael ti fynd nes bydd y glodrestr yn rhedeg. Rhybudd sydyn: os wyt ti ddim yn hoffi ychydig bach o hiliaeth gyd-destunol, paid mynd yn agos at Infinite. Dwi ddim yn dweud hyn fel peth drwg; mae’n wych achos mae’n gwneud i ti gredu bod y gêm wedi’i osod yn 1912. Efallai bod y gwahaniad rhwng y du a’r gwyn yn frawychus i rai, ond i rywun sydd wedi cael ei ddylanwadu gan gyfryngau modern a dosbarthiadau hanes, dwi’n gwerthfawrogi pa mor wir mae’n gwneud i Columbia deimlo.

Un o’r ychwanegiadau newydd i Infinite sydd ddim mewn unrhyw gêm arall fedra i feddwl amdano ydy’r ‘skylines’. Os wyt ti wedi gweld unrhyw un o’r hysbysiadau am Infinite, byddi di’n deall beth dwi’n siarad amdano. Os ddim, y ‘skylines’ ydy’r gwifrau sydd yn cysylltu dinas Columbia ac sy’n cael eu defnyddio i drosglwyddo nwyddau. Ti’n cael gadael ar ddarn o dechnoleg gelwir yn ‘skyhook’, winsh llaw sydd yn gadael i ti ddefnyddio’r ‘skylines’ i gael o un lle i’r llall.

Teithio ar y ‘skylines’ ydy un o’r profiadau mwyaf cyffrous mewn unrhyw gêm fideo, fel esgyn o borth i borth yn y gyfres Portal neu flincio i lofruddiaeth yn Dishonored (daria’r Americanwyr am ei ysgrifennu’n anghywir). Neidio oddi ar ‘skyrail’ i ladd gelyn yn syth, chwistrellu ei dîm gyda fy llawddryll, lladd ychydig wrth wneud hynny, cyn neidio yn ôl ar y ‘skyrail’ i adfywio fy nharian ydy un o’r pethau mwyaf cyffrous mewn gêm yn y cof diweddaraf, yn gyfartal i esgyn o un ochr o Arkham City i’r llall heb gyffwrdd y llawr neu gwblhau lefel o Hotline Miami gydag un bywyd. Dyma sydd yn gwneud gemau yn gyfrwng mor wahanol, yn cynnig profiadau nad all cyfleu mewn ffilm neu lyfr ac yn rhy beryglus i wneud mewn gwirionedd. Mae’n wych, fel dim byd arall dwi wedi’i brofi. Os nad wyt ti’n cael dy berswadio i brynu Infinite o’r adolygiad yma, mae’n fuddiol i ddarganfod rhywun sydd wedi dim ond i gael profiad o’r ‘skylines’.

Mae stori Infinite yn wych, yn enwedig am gêm saethu person cyntaf. Fel Booker, ti wedi teithio i Columbia i ddod o hyd i ferch o'r enw Elizabeth i dalu dy ddyledion gamblo. Unwaith ti’n cyrraedd Columbia ti’n sylweddoli bod gwrthryfel yn cychwyn, mae byddin o’r enw Vox Populi yn ceisio dymchwel arweinydd crefyddol y Comstock. Trwy droelli a throsi’r stori, ti’n dod i ddarganfod cast dymunol o gymeriadau, o’r hen law fyddin Cornelius Slate a’r arweinydd chwyldroadol Daisy Fitzroy. Mae pob un yn ddiddorol ac yn cael ei gefnogi gan leng o voxophones (ateb Infinite i logiau clywedol), felly erbyn y diwedd ti’n gwybod stori cefndir bob cymeriad a’i gymelliadau.

Y cymeriadau oedd yn sefyll allan mewn syndod oedd yr efeilliaid Lutece, cymeriadau bach od ti’n cyfarfod drosodd a throsodd trwy’r stori. Maent hefyd efo themâu anhygoel oedd yn aros yn fy nghof. Ond gwir seren y sioe ydy Elizabeth. Fe fyddi di’n dod i boeni amdani dros gyfnod y gêm, nid fel cariad, ond fel ffrind gorau. Mae’r gêm yn ei thrin fel hyn hefyd, byth yn ceisio gorfodi Booker a Elizabeth i mewn i berthynas diflas. A chyn i unrhyw un gwyno am y syniad o’r gêm yn cael sustem hebrwng, nid dyma’r gwir. Er bod Elizabeth yn dy ddilyn trwy tua 85% o’r gêm, nid oes rhaid ei hamddiffyn, ac mae’r gêm yn dweud hyn wrthyt ti. Bydd Elizabeth yn darganfod lloches yn reddfol ac allan o’r ffordd pan fyddi di’n ymladd gelynion. Mae hi hefyd yn dod o hyd i bethau defnyddiol wrth i ti frwydro, fel iechyd a bwledi ac ati. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn, yn galluogi ti i gadw stoc yn ystod brwydr. Mae hyn yn felltith ac yn fendith: pan ti’n mynd i ddal unrhyw beth mae Elizabeth yn lluchio atat ti, ti’n troi i wynebu hi, ac yn symud i ffwrdd o’r frwydr. Mae hyn yn gadael i ti fod yn anorchfygol am ychydig fframiau ac yn gadael i dy darian ail-lenwi. Mae hefyd yn chwarae’r un animeiddiad pob tro, ac efallai bydd hyn yn gwylltio rhai pobl.

Mae tri math o elynion newydd yn cael eu cyflwyno i mewn i’r gêm. I gychwyn mae’r Motorized Patriot, peiriant propaganda sy’n cerdded gyda gwn bach. Dydy'r rhain ddim yn rhy anodd i drechu ac maent yn dod yn elynion rheolaidd yn hwyrach yn y gêm, ond maent yn darparu sialens fach pan ti’n isel ar arfau ac iechyd. Yn ail mae’r Handyman. Mae'r rhain yn gythruddol iawn gan fod ganddynt lawer o iechyd ac maent yn dod yn agos iawn atat ti i greu niwed. Ond diolch byth, maen nhw’n ddeniadol i’r llygad i ffans steampunk, gan eu bod yn gyfuniad o ddyn a pheiriant. Maen nhw’n gythruddol iawn i ymladd â nhw unwaith ti wedi rhedeg allan o arfau agos fel gwn peiriant neu wn hela, yn gadael ti i geisio saethu’n wyllt yn agos iawn gyda reiffl cêl-saethwr. Mae’n weithred ddwys iawn sydd yn cystadlu yn erbyn cwffio’r Big Daddy am y clicio llygoden wyllt wrth grymu yn dy gadair cyfrifiadur bychan yn hwyr yn y nos. Y trydydd a’r gorau o’r hunan-gyhoeddwyr ‘Heavy Hitters’ ydy’r Boys of Silence: hogiau ysgol ddirdro, dall gyda chlyw gwell. Nid yw'r rhain yn ymddangos nes traean diwethaf y gêm, ond maent yn ddychrynllyd i’w ymladd. Dim ond côn bychan o ‘olwg’ sydd gan y bechgyn ac mae’n rhaid osgoi hwnnw, neu mae’r bechgyn yn sgrechian ac yn gadael haid o seicopathïau yn rhydd. Mae'r rhain yn enwedig o frawychus yn yr amgylchedd maent ynddo, a dwi ddim eisiau difetha hynny, ond dyma ydy’r ardal gorau yn y gêm.

Mae arddull graffigol Infinite yn debyg i Dishonored llynedd, yn anelu i beidio mynd am olwg realistig llawn, ac yn mynd am olwg ddim yn hollol ‘cel shaded’ fel ei fod yn ymddangos fel mwy o gartŵn nag rhywbeth sy'n gwneud gormod o ymdrech fel Crysis neu Battlefield. Mae hwn yn gwneud y cymeriadau yn haws i edrych arnynt gan nad ydynt yn cael eu llethu yn yr 'Uncanny Valley'.

Dwi’n meddwl bod y cymeriadau yma yn fwy hoffus na’r rhai mewn gemau mwy fel realaeth fel Gears of War neu Dead Space. Yr hen ddadl o Wind Waker yn erbyn Twilight Princess ydyw, sef arddull celf dros realaeth. Yn bersonol mae’n well gen i arddull celf Infinite na’r mwyafrif o gemau AAA eraill sydd wedi’u rhyddhau yn ddiweddar. Mae hefyd yn gwneud y trais eithafol yn llawer haws i’w dderbyn, ond yn cadw’r angerdd – nid fel gêm ‘cel shaded’ lawn fel Bordelands.

Mae’r gerddoriaeth hefyd yn haeddu canmoliaeth, yn gweddu’r cyfnod ac yn gwneud i mi fod eisiau ef, a dwi heb deimlo fel hynny am gêm ers Skyward Sword a Skyrim. Mae’r gramoffonau o gwmpas Columbia yn gwneud iddo deimlo’n real ac, fel dywedwyd cynt, yn gwneud i’r awr gyntaf o gerdded drwy strydoedd Columbia yn bleserus iawn. Mae’r dyluniad sain hefyd yn wych, ffidl yn chwarae’n uchel pan fyddi di’n sgorio saethiad i’r pen a’r gerddoriaeth yn pylu mewn llefydd da unwaith i ti orffen ymladd. Mae’n rhywbeth na fyddai gemau eraill yn meiddio ceisio cyflawni.

Nawr am ychydig o gwyno. I gychwyn, y defnydd o ‘vigors’ (fersiwn Infinite o bwerau). Mae rhai o’r meistri buan yn ymofyn bod gen ti ‘vigors’ i drechu nhw, yn arwain at adegau lletchwith pan mae hi bron yn amhosib trechu’r meistri heb lawer iawn o fwledi yn cael eu defnyddio/gwastraffu. Golygai hyn nad oeddwn i brin yn defnyddio'r ‘vigors’ rhag ofn i mi fod angen nhw'n hwyrach i ddatrys rhywbeth. Mae’r uwchraddio hefyd yn rhy ddrud, sydd yn golygu byddi di ddim ond yn gallu uwchraddio potensial dau neu dri ‘vigors’ yn llawn.

Mae hyn yn arwain at fy ail gwyn: yr arian. Mae ychydig yn od gan fod ganddo ddwy broblem wrthwynebol. Weithiau nid oes gen ti ddigon o arian ar gyfer unrhyw beth buddiol, tra ar adegau eraill bydd gen ti cymaint fel y galli di uwchraddio arf yn llawn mewn un tro. Nid yw’n gyson iawn, er mae’n hwyl i fedru uwchraddio’r gwn hela yn llawn sydd yn siwtio ti ar y funud honno i’w wneud yn pedair waith mwy pwerus.

Mae hyn hefyd yn amlygu problem arall: yr arfau. Dwi’n hoffi’r dewis arfau yn Infinite, ond dim ond dau arf ar yr un tro fedri di gario. Bydd rhaid i rain gynnwys beth bynnag mae’r gelynion yn defnyddio ar yr adeg honno, gan fod siopau i ailstocio yn eithaf pell oddi wrth ei gilydd. Golygai hyn bod rhaid i ti gael gwared ar dy wn peiriant sydd wedi’i uwchraddio’n llawn er mwyn cael reiffl cêl-saethwr am mai dyna’r unig fwledi sydd i’w cael oddi ar y llawr. Hefyd nid oes siop i newid pa arfau ti’n defnyddio, felly bydd rhaid gwneud gyda reiffl cêl-saethwr nes i ti ddod o hyd i wn peiriant yn agos i siop. Mae yna hefyd ychydig o achosion o gyfradd fframiau hap yn disgyn yn ogystal â Deallusrwydd Artiffisial yn anghofio ble rwyt ti, ond dim byd rhy ddifrifol i ddifetha’r profiad yn gyfan gwbl.

Y prif gŵyn sydd gen i ydy’r dillad. Am y rhan fwyaf o’r gêm, roeddwn i’n meddwl mai’r unig ffordd o newid dy ddillad oedd dod o hyd iddo yn yr amgylchedd. Golygai hyn pan oeddwn i yn cyfnewid fy fest cadw-bwledi ar ddamwain am un oedd yn rhoi ymosodiad AOE (ardal o effaith) wrth gael fy nharo, roeddwn i’n eithaf trist. Dyw'r gêm ddim yn dweud wrthyt ti trwy glicio’r botwm O ar gyfrifiadur personol mae sgrin dillad yn ymddangos lle mae posib golygu beth ti'n gwisgo, sydd yn golygu bod yr holl ddillad anwybyddais gan fod rhai fi yn ddigon da wedi cael ei adael ar ôl. Yna roeddwn i’n tybio’n naturiol byddwn i hefyd yn gallu newid gynau, ond doeddwn i ddim. Mae’n dda bod o yna, ond ni ddywedodd y gêm hynny, felly surodd hyn fy narganfyddiad braidd.

Mae yna lawer o fynd yn ôl yn y gêm hefyd wrth i ti ddilyn Booker drwy ei anturiaethau llawn yn Columbia, yn gadael ti mewn rheolaeth o’r cychwyn i’r diwedd (heblaw am olygfeydd cysylltu, sydd i gyd yn y person cyntaf, yn cadw trochiad), felly os wyt ti yn erbyn mynd yn ôl, yna efallai byddi di’n diflasu.

Felly sut mae Infinite yn cymharu at y gwreiddiol? Mae’n llawer gwell gen i ddinas Columbia nag Rapture gan ei fod wedi’i oleuo yn well ac yn fwy eang, yn ei wneud yn llawer mwy o hwyl i redeg o gwmpas nag Rapture. Yr unig reswm bod y gwreiddiol yn well nag Infinite ydy’r ffaith ei fod yn eiconig. Does dim o’r gelynion newydd mor eiconig â’r Big Daddies, dydy Comstock ddim mor dda ag Andrew Ryan ac nid oes dim mor gofiadwy â “Would you kindly?”

Ond dydy hyn ddim yn gwneud Infinite yn gêm ddrwg – os rhywbeth cefais lawer mwy o hwyl yn ei chwarae na’r gwreiddiol – ond ni fydd yn gadael cymaint o argraff yn y gymuned. Os na fydda Bioshock yn bodoli, byddai Infinite yn dal i fod yn yr union un lle, sydd yn arwydd o ddilyniad da. Hefyd, pan fydd Infinite yn clymu i mewn gyda gweddill y gyfres, bydd dy ên di’n gollwng a byddi di’n sibrwd yn slei “O Ken Levine, ti mor glyfar.”

Mae Infinite yn gêm wych, gyffrous. Dwi’n meddwl mai dyma fy ngêm AAA gorau ers Portal 2, a dwi’n teimlo efallai mai dyma fydd gêm y flwyddyn i fi. Mae ganddo ychydig o broblemau bach, ond dim wnaeth ddifetha’r profiad i fi. Os nad wyt ti wedi chwarae Bioshock eto, beth sydd yn bod gyda thi? Cer i’w chwarae, ac unwaith ti wedi gwneud hynny, cer i brynu Infinite (beth wyt ti’n feddwl Bioshock 2? Dwi ddim yn gwybod am beth wyt ti’n siarad). Mae’r gêm yn cymryd rhyw 11 awr dda i’w guro, a byddi di’n mwynhau pob munud ohono. Hefyd mae’r cerdyn teitl efo lle gwag ar gyfer cynnwys i’w lawr lwytho, a byddaf yn prynu hwn yn syth pan fydd yn cael ei ryddhau. Mae’r gêm hefyd yn ddigon o hwyl i chwarae drosodd a throsodd, a bydd y dewisiadau efallai yn gallu effeithio’r stori (dwi ddim yn gwybod, dwi ddim digon gwallgof i gwblhau’r gêm ddwywaith mewn wythnos). Mae’r ‘voxophones’ eu hunain yn ddigon o reswm i fynd yn ôl er mwyn dod o hyd iddynt a datgloi’r stori'n llawn os wyt ti’n hoffi gwneud hynny. Dwi wedi mwynhau’r gêm yn fawr iawn, a dwi’n gwybod y gwnei di hefyd.

Ofn methu un o adolygiadau neu ragolygon Jeff the Fridge? Cadwa olwg ar adran cyfresi TheSprout ar Dudalen Facebook TheSprout.

Digwyddiadau – Cyfarfod Grŵp Golygyddol Sprout Ebrill 2013
Erthyglau – Categorïau – Technoleg
Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch
DELWEDDAU: architecturegeek & Pop Culture Geek trwy Compfight cc


Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.