Newyddion Drwg 2.0
Erbyn i ti ddarllen hwn, byddi di'n gwybod yn barod fod Michael Jackson – y Brenin Pop talentog ac ecsentrig – wedi marw o drawiad y galon. Mae'n debyg dy fod di'n gwybod hyn cyn i bapurau'r bore gael eu hargraffu.
Dyna pam, er dymuniad fy ngolygydd i roi erthygl ar y stori yma cyn gynted â phosib, dewisais yrru negeseuon testun a Twitter i gyfathrebu'r newyddion; mae ysgrifennu, golygu a chyhoeddi erthygl yn cymryd mwy nag 30 eiliad ac felly mae'n dod yn ffordd ddiangen o newyddiaduraeth pan ddaw i gyhoeddi newyddion.
Maen nhw'n dweud nad oes dim yn teithio'n fwy sydyn nag newyddion drwg. Daeth newyddion marwolaeth Jacko yn sioc ac, fel ymddangosai ydy natur ddynol, o glywed y newyddion trist mynegwyd ein galar gan ei rannu i mewn i ddarnau bach a'i yrru mewn neges i bawb yn ein ffôn.
Mewn dim o amser mae'r newyddion wedi teithio o amgylch y byd, ac o fewn munudau o'r adroddiad cyntaf roedd damcaniaethau cynllwynion yn barod, si o farwolaethau pobl enwog eraill, a'r jôcs gwael anochel.
Os bydda ti'n byw ar ben dy hun gyda ffenestri dwbl a llenni wedi cau, wedi troi dy gyfrifiadur i ffwrdd am y noson, ddim yn berchen ar deledu na radio a bod batri dy ffôn wedi marw, yna mae'n bosib dy fod di yn un o'r lleiafrifoedd ddeffrodd y bore wedyn a drysu efo'r geiriau: "autopsy inconclusive: doctors divided on whether to blame it on sunshine, moonlight, good times or boogie" ar sawl statws Facebook.
Nid oeddent yn proffesu 'Gorffwysa mewn heddwch MJ' oherwydd erbyn hyn roedd hynny yn hen newyddion; roedd pawb yn gwybod amdano felly nid oedd angen parhau i weiddi hyn dros y rhyngrwyd. Erbyn y bore nid oedd y jôcs yn ddi-chwaeth bellach, am fod y syniad o Jacko byw bellach yn orffennol pell. Roedd yn chwedl hir-farw, yr un peth ag Elvis.
Dyma pa mor sydyn mae newyddion yn lledaenu heddiw, yn enwedig newyddion drwg. Mae pob eiliad yn bwysig. Efallai bod rhywun wedi marw? Wel, dydy hynny ddim digon da: mae grymoedd cyfunol y rhyngrwyd yn mynnu mwy o wybodaeth, ac nid ydym yn barod i ddisgwyl. Mae wythnos diwethaf yn ymddangos fel oes yn ôl.
Methodd Twitter weithio ac roedd rhaid tynnu'r pynciau oedd yn 'trendio' am fod y geiriau "Michael", "Jackson" a "Died" wedi dymchwel y gweinyddwyr grymus mewn munudau. Dyna yw pŵer newyddion drwg. Ac yn wir, roedd marwolaeth Jacko wedi symud ni: mae am wneud yn anhygoel yn y siartiau am yr wythnos neu ddau nesaf – nid oes amheuaeth – ond dyma yw'r hiraeth diflanedig mae ein cenhedlaeth ni yn ei brofi pan nad oes amser i brosesu galar.
Wythnos diwethaf digwyddodd rhywbeth yn Iran, wythnos yma bu farw Jacko, ac mewn mis bydd y ddau atgof wedi cael eu hanghofio a'u hailosod gyda newyddion micro arall fydd yn saethu pasio ein llygaid cyn i ni gael amser i'w brosesu.
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol De Califfornia wedi rhybuddio am beryglon y fath brosesu sydyn o newyddion drwg. "Mae bwletin newyddion teledu cyflym neu gael diweddariadau trwy offer rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter yn gallu pylu ein synnwyr o foesoldeb a'n gwneud yn ddifater i ddioddefant dynol," awgrymai'r adroddiad. "Mae casgliadau newydd yn dangos bod y llif o wybodaeth sydd yn cael ei ddarparu gan wefannau rhwydweithio cymdeithasol yn rhy sydyn i 'gwmpawd moesol' yr ymennydd brosesu a gallai niweidio datblygiad emosiynol pobl ifanc.
"Cyn i'r ymennydd fedru crynhoi dirboen a dioddefaint stori yn llawn, mae'n cael ei beledu gan y bwletin newyddion nesaf neu'r diweddariad Twitter diweddaraf." Nid oes amheuaeth bod newyddion drwg yn teithio'n sydyn yn yr oes wybodaeth: ar noson marwolaeth Michael Jackson dyblodd amledd diweddariadau Twitter ac roedd Facebook tair waith yn fwy.
"Gwelsom ddyblu cyflym o tweets yr eiliad y funud torrodd y stori," meddai cyd-sylfaenydd Twitter, Biz Stone, wrth yr LA Times. "Mae'r newyddion penodol yma am farwolaeth y fath eicon byd-eang wedi achosi'r naid fwyaf o tweets yr eiliad ers etholiad llywyddol America." Roedd pobl hefyd wedi adrodd bod gwefannau newyddion, gwasanaethau negeseuo sydyn a gwefannau blog yn araf iawn.
Gyda pharhad yn y tyfiant diddordeb o fewn rhwydweithio cymdeithasol, negeseuo sydyn a diffyg amynedd y cyhoedd tuag at newyddion drwg, efallai ein bod ar gychwyn oes o nid yn unig gwybodaeth, ond emosiwn wedi'i hidlo?
DOLENNI:
CNN: Scientists warn of Twitter dangers
Telegraph: Michael Jackson set to be number one in charts following his death
DELWEDD: Raul Orozco
Gad sylwad. Anogir trafodaeth.