Newid Hinsawdd - Cyfri'r Dyddiau Cyn Copenhagen
Ym mis Rhagfyr eleni, bydd arweinwyr y byd yn cwrdd mewn cynhadledd fawr o’r enw COP 15 yn Copenhagen i drafod y newid yn yr hinsawdd a’r hyn sydd angen ei wneud ledled y byd i’w arafu.
Y nod yw cytuno ar ffordd i’r byd weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael ar newid hinsawdd.
Dweud eich dweud?
Mae Llywodraeth y Cynulliad am i bobl ifanc Cymru fynegi eu barn am yr hyn ddylai gael ei wneud ynghylch y newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn dy wahodd i ‘Cyfri’r Dyddiau cyn Copenhagen / Countdown to Copenhagen’ i ddysgu sut mae’r hinsawdd yn newid ac i ddweud beth yn dy farn di sy’n bwysig.
Yn ystod y dydd, byddwn yn dangos y ffilm ‘Age of Stupid’ ac yn cynnal gweithdai, wal graffiti a blychau fideo, a darlithoedd gan bobl ddiddorol sy’n deall beth mae’r newid yn yr hinsawdd yn ei olygu.
Bydd un o’r Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd yn mynd a syniadau ac argymhellion pobl ifanc Cymru i Copenhagen.
Sut alla’ i fynd?
Mae ‘Cyfri’r Dyddiau cyn Copenhagen / Countdown to Copenhagen’ i bobl ifanc o dan 25 oed.
Pryd: Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2009
Ble: Stadiwm Liberty, Abertawe
Pwy: 300 o bobl ifanc (o dan 25 oed)
Beth ddylwn ei wneud nesaf?
I ddarganfod mwy ac i gofrestru, cer i www.cymrutroedcarbon.gov.uk
Edrycha hefyd ar ein erthygl Cyfri'r Dyddiau Cyn Copenhagen
Llun gan: xJasonRogersx