Welcome to The Sprout! Please sign up or login

NadoCLIC #11

Posted by AddictedToDrPepper1 from Cardiff - Published on 11/12/2011 at 12:43
0 comments » - Tagged as Culture, Festivals, People, Yn Gymraeg

  • grinch

English version

Croeso i ffenestr #11 o'r Calendr Adfent NadoCLIC! Os hoffet ffenestr dy hun i ddangos dy stwff Nadolig (neu dylai hynny fod yn stwffin!!!) a chael cyfle i ennill Nintendo 3DS yna e-bostia sam@cliconline.org.uk cyn gynted phosib.


Pam Dwi'n Casu’r Nadolig

Dwi am gychwyn drwy ddweud fy mod i'n Iddewig, ond dwi ddim yn credu mewn Dur go iawn. Cefais fy magu mewn cartref Iddewig ond dwi wedi teimlo erioed fod Iddewiaeth yn hil a diwylliant mwy nag crefydd.

Felly, dwi am ysgrifennu'r erthygl yma am pam fy mod i'n casu’r Nadolig a sut beth ydy bod yn Iddew mewn diwylliant Cristnogol iawn. Hefyd, beth mae fy nheulu i yn ei wneud ar gyfer ein g?yl gaeaf ni, Channukah.

Felly, Imogen, pam wyt ti'n casu’r Nadolig?

I gychwyn, dwi eisiau dweud fy mod i'n meddwl fod treulio amser gyda dy deulu a dangos faint rydych yn caru eich gilydd yn grt. Ond dwi ddim yn meddwl dylai'n rhaid i ti dreulio amser efo'ch gilydd am dri diwrnod. Dylai caru eich gilydd a gweld eich gilydd trwy'r adeg. Mae fel Sul y Mamau a Sul y Tadau, dwi ddim yn deall pam fod rhaid i rywun ddweud wrthyf fod rhaid i mi garu rhywun.

Dwi'n casu’r Nadolig gan ei fod yn amser hyfryd y flwyddyn lle dwi'n cael fy nhrin fel ffrc am nad wyf yn ei ddathlu. Dwi'n sori am gael barn fy hun ar rywbeth. Mae hefyd yn amser hyfryd yna'r flwyddyn pan fydd hunanladdiad yn cynyddu gan fod pobl yn teimlo pwysau hysbysebion a'r corfforaethau i wario llawer o arian ar bobl. Mae yna rai pobl sydd ddim yn gallu fforddio anrhegion ar gyfer eu teuluoedd ac yn dioddef o iselder nad allent nhw roi'r 'Nadolig perffaith'.

Mae eraill yn gwario llawer gormod a pan fydd mis Ionawr yn cyrraedd nid allent fforddio talu'r biliau, cardiau credyd na hyd yn oed prynu bwyd, felly maent yn meddwl mai hunanladdiad ydy'r unig ffordd allan. Hefyd, oherwydd bod Nadolig yn ymwneud bod gyda theulu, mae'n gwneud i bobl sydd ddim efo neb deimlo'n fwy unig nag yr oeddent yn barod.

Yn olaf, y trydydd rheswm pam dwi'n casu’r Nadolig ydy oherwydd yr unig reswm mae'n bodoli ydy oherwydd bod yr Eglwys Gristnogol eisiau mwy o ddilynwyr. Felly, fe wnaethant ddwyn Heuldro'r Gaeaf Paganaidd a'i wneud am Iesu Grist. Dwi'n meddwl fod hyn ychydig yn eironig, gan fod un o'r Deg Gorchymyn yn dweud 'Paid lladrata'. Beth sydd yn fwy eironig ydy'r ffaith mai'r Nadolig ydy'r UNIG ?yl gaeaf sydd wedi gadael i'r corfforaethau barus werthu ei enaid i wneud llawer iawn o arian.

Ac na, dwi ddim yn barnu'r bobl sydd yn credu mewn Duw fel bod ganddynt obaith. Dwi'n siarad am y bobl sylfaenol yna sydd yn defnyddio Duw fel esgus i fod yn hiliol, yn homoffobig ac ar y cyfan yn anwybodus! O, am oll-gariadus ych chi!

Iawn, rant mawr i un ochr am funud, dwi'n mynd i siarad am beth fydd fi a'm nheulu yn gwneud am Channukah.

Mae Channukah fel arfer o gwmpas yr un amser 'r Nadolig, yn anffodus llynedd roedd ychydig cyn y gwyliau Nadolig ac roedd hynny'n ddiflas. Ond eleni mae'n cychwyn ar yr 20fed ac yn mynd ymlaen yn ystod y Nadolig, sydd yn wych gan fod fy nghariad yn dathlu'r Nadolig a dwi'n cael treulio amser gyda hi,

Bydd Channukah eleni yn ychydig yn wahanol gan fod fy rhieni wedi cael ysgariad yr haf yma, felly ni fyddaf efo fy nheulu cyfan ac mae fy chwaer fel arfer yn gwneud ei pheth ei hun gyda'i chariad ar gyfer Channukah beth bynnag.

Fel arfer, pob machlud haul am wyth diwrnod, byddwn yn goleuo'r Hanullah neu Menorah, yn dweud ychydig o weddon ac yn canu caneuon mewn Hebreaidd, yn cyfnewid anrhegion, chwarae dreidel (dis ti'n troi ac sydd efo llythrennau Hebreaidd ar bob ochr. Mae'r llythrennau yn symboleiddio gweithred. Mae'r gm yn cael ei chwarae gydag arian siocled (gelt) a'r pwrpas ydy i gael cymaint o arian siocled phosib), bwyta bwydydd sydd yn seiliedig ar olew fel donuts a latkes ac yn treulio amser gyda'n gilydd.

Mae Channukah yn bwysig iawn i mi gan ei fod yn rhan o fy etifeddiaeth Iddewig. Efallai nad wyf yn credu mewn Duw ond dwi'n parchu fy etifeddiaeth a'm diwylliant. Dwi'n meddwl ei fod yn siom mawr fod Channukah a gwyliau goleuadau'r gaeaf – fel Diwali, Yule, Sadeh a Saturnalia – ddim yn cael cymaint o ffocws 'r Nadolig.

Gwybodaeth:

Gwybodaeth Arian Dyled

Gwybodaeth Iechyd Iechyd Emosiynol a Meddyliol Hunanladdiad

Gwadiad:
Yma yn rhwydwaith CLIC rydym wrth ein boddau gyda barn. Mae pawb efo barn, a phawb efo'r hawl i fynegi a thrafod beth maen nhw'n ei gredu, a byddwn yma drwy'r adeg i helpu chi i wneud hynny. Yr unig beth rydym yn ei ofyn ohonoch chi ydy eich bod yn parchu barn eraill. Os ydych chi'n anghytuno gyda rhywbeth sydd wedi'i ddweud, rydym yn annog chi i adael sylwad neu ysgrifennu erthygl eich hunain mewn ymateb. Mae'r holl farnau sydd yn cael eu mynegi ar CLICarlein a'r gwefannau lleol CLIC yn rai pobl ifanc ar draws Cymru ac ni o angenrheidrwydd yn cynrychioli CLIC ei hun.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.