Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Mynnwn Gyflog Byw

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 30/05/2012 at 17:13
0 comments » - Tagged as Work & Training, Yn Gymraeg

  • img

English Version

Rydym yn gr?p o bobl ifanc sy’n gweithio gydag ymgyrch Achub y Plant ac yn ymgyrchu dros gyflog byw. Fe wnaethom gychwyn cyfranogi gydag Ymgyrch Achub y Plant trwy brosiectau yn ein hysgolion.

Fe wnaeth ein grwpiau dreulio llawer iawn o amser yn trafod sut i wneud ein hysgolion a’n cymunedau yn well llefydd. Fe wnaethom hefyd drafod y problemau a wynebir gan bobl sy’n byw mewn tlodi a sut mae hyn yn gwneud eu bywyd hwy a’u teulu yn anodd.

Mae llawer o bobl sy’n byw mewn tlodi yn gweithio’n galed, ond nid ydynt yn ennill llawer o arian; roeddem am wneud gwahaniaeth positif i bobl Cymru, felly penderfynom ymgyrchu dros gyflog byw. Y cyflog byw yw’r isafswm a delir i rywun am awr o waith - £6.08. Nid yw’n ddigon yn ein barn ni, ac rydym am ei godi i £7.20. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl brynu pethau fel bwyd, dillad a thalu eu biliau.

Mae’r llywodraeth yng Nghymru eisoes wedi addo gwneud hyn, ac i ddangos iddynt beth ddylai ddigwydd ynghylch y mater yn ein barn ni, mae gennym ddeiseb yn gofyn iddynt gadw’r addewid. Rydym yn gofyn i bobl yn ein hysgol a’n ffrindiau a’n teuluoedd i lofnodi ein deiseb. Mae ar gael ar-lein hefyd, fel y gall unrhyw un ei lofnodi yno. Pan fyddwn yn gofyn i bobl lofnodi, bydd y rhan fwyaf yn gofyn beth yw ei ddiben, roedd rhai yn amheus o’i lofnodi a rhannu eu manylion, ond ar l cael eglurhad, roedd y mwyafrif yn fodlon llofnodi. Roedd rhai o’n ffrindiau yn frwdfrydig iawn, ac fe wnaethant gynorthwyo hefyd.

Dywedwn...

“Rwy’n ymgyrchu dros y cyflog byw oherwydd credaf ei fod yn annheg fod pobl yn gweithio’n galed heb ennill digon i gael safon byw da.”

“Byddaf yn teimlo’n ddig iawn pan welaf bobl sy’n gweithio oriau maith ond yn methu cael dau ben llinyn ynghyd.”

"Rwy’n ymgyrchu oherwydd rwy’n pryderu na fyddaf yn gallu ennill digon i gadw fy nheulu pan fyddaf yn hynach, er fy mod yn gweithio’n galed."

“Buasai cyflog byw yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl, buasai llai o straen a llai o bryder ynghylch talu biliau."

Gallwch ein cynorthwyo trwy lofnodi ein deiseb.

Gwybodaeth  Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth  Hawliau a Chyfrifoldebau

Gwybodaeth  Arian  Arian Tra'n Gweithio  Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.