You are here: Home » Articles » My Sister's Keeper
My Sister's Keeper
Posted by archifCLICarchive from National - Published on 16/07/2009 at 15:37
Pan mae Kate Fitzgerald (Sofia Vassilieva) yn dysgu fod ganddi Leukemia mae ei rhieni yn colli gobaith.
Penderfynodd gael ail fabi o enw Anna Fitzgerald (Abigail Breslin) i helpu gadw Kate yn fyw gan roi popeth o waed i organau iddi.
Mae ei rhieni Sara Fitzgerald (Cameron Diaz) a Brian Fitzgerald (Jason Patric) yn gofalu am Kate 24/7 oherwydd y Leukemia. Teimla Jesse Fitzgerald (Evan Ellingson) sef brawd Kate yn unig a dibwys ond mae'n caru ei chwaer Kate yn fawr. Maent yn gofalu am Kate ac yn helpu hi fyw trwy’r salwch.
Es i i weld y ffilm newydd My Sister’s Keeper yn y sinema yng Nghaerdydd ar y penwythnos gyda grŵp mawr o ffrindiau.
Darllenais adolygiad am y ffilm yn yr South Wales Echo am y ffilm a hynny oedd y rheswm wnes i weld y ffilm. Roedd gennym ddisgwyliadau uchel oherwydd yr adolygiad. Soniodd yr adolygiad am y stori bwerus a gaiff ei chyflwyno drwy’r prif gymeriad Kate.
Dechreuodd y ffilm yn bwerus ac yn cyflwyno’r cymeriadau yn eglur. Cyflwynwyd bob un o’r cymeriadau a oedd yn y ffilm yn wych gan ein bod yn dod i adnabod y cymeriadau yn gyflym iawn. Wrth i’r ffilm fynd ymlaen roedd mwy o deimladau yn cael eu cyflwyno, er enghraifft marwolaeth, hiraeth, cariad a gobaith.
Yn fy marn i mae’r ffilm mor emosiynol, mor gryf a phwerus ac yn dangos pa mor galed mae bywyd i rai pobl. Gall unrhyw berson ei gweld, o blant i oedolion. Mae’r ffilm hon yn un o oreuon y flwyddyn hon ac yn un o’r gorau erioed.