Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Mwncod Rhydd

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 15/05/2011 at 10:30
0 comments » - Tagged as Comedy, Education, Stage, Topical

  • simon
  • brian
  • skeptics

English Version

Allai gwyddoniaeth byth fod yng ngh?l? Neu hyd yn oed doniol?

Os mai "byth, byth, bythoedd" ydy dy ateb cychwynnol, fyddwn i ddim yn gweld bai arnat. Yr unig dro i mi erioed fwynhau gwers gwyddoniaeth yn yr ysgol oedd pan gefais dorri rhywbeth ar agor neu roi rhywbeth ar dn.

Wel mae taith yr Uncaged Monkeys yn mynd i newid dy feddwl di am wyddoniaeth.

"Beth ydy hynna?" dwi'n clywed ti'n ddweud, "Dyw gwyddonwyr ddim yn mynd ar daith. Maen nhw'n eistedd mewn labordy ac yn gwisgo cotiau gwyn ac yn osgoi unrhyw gyswllt gyda phobl eraill." Wel, dyna'r union fath o stereoteip mae'r dynion yma eisiau cael gwared ohono: yn cyd-deithio gyda chomediwyr sydd yn caru gwyddoniaeth, gan gynnwys Dara O'Briain, Chris Addison, Helen Arney a'r niwro wyddonwr wedi troi'n gomedwr o Gaerdydd, Dean Burnett, mae'r cwmni yma o wyddonwyr yn teithio ar draws y wlad yn atgoffa pobl nad oes rhaid i wyddoniaeth fod yn ddiflas.

Efallai nad yw talu i weld clwstwr o wyddonwyr yn siarad am ddwy awr yn ymddangos fel sioe gomedi arferol, ond profodd eu sioe yng Nghaerdydd yn ddiweddar ei fod yn gallu bod yn brofiad doniol iawn ac yn un i chwythu'r meddwl. O esbonio'r Theori Glec Fawr (Big Bang) drwy drydan ladd gercyn a chwarae Stairway To Heaven tuag yn l, i esbonio sut mae teithio drwy amser yn bosib go iawn. Gadawodd yr Uncaged Monkeys fi gyda pharch newydd tuag at yr ochr ddiddorol o wyddoniaeth.

Wedi cyflwyniad gan y comedwr a'r cyflwynwr Robin Ince, cychwynnodd y sioe gyda'r Ben Goldacre gwych: sef doctor a newyddiadurwr Guardian sydd yn rhedeg y blog Bad Science ac awdur y llyfr o'r un enw. Bwriad Ben mewn bywyd ydy i amlygu "gwyddoniaeth ddrwg": honiadau chwerthinllyd sydd yn swnio'n wyddonol ond sydd, mewn gwirionedd, yn lol hollol. Dangosodd sleidiau o benawdau oedd yn gyffrogarwch ac yn codi bwganod (y mwyafrif o'r Daily Mail) gyda honiadau fel "Gallai'r Brechlyn MMR Achosi Awtistiaeth" ac yna aeth yn ei flaen i esbonio, mewn iaith gallem ninnau ddeall, nad oedd cyswllt o gwbl rhwng y ddau a bod yr ofn cyfan wedi cael ei selio ar bron i ddim.

Roedd yn ddiddorol ac yn agoriad llygad, wrth fod yn ddoniol ac yn ddychrynllyd pan esboniodd pa mor hawdd gall gwybodaeth anghywir gael ei dderbyn fel y gwir gan y cyhoedd – yn aml yn cael ei annog gan y papurau newydd eisiau pennawd dychrynllyd gan y byddai'n gwerthu mwy. Un o'i hoff dargedau ydy Dr Gillian McKeith (PhD) "neu – i roi ei theitl meddygol llawn – Gillian McKeith."

Roedd y gynulleidfa yn crio chwerthin wrth i Ben Goldacre ddadansoddi cyngor iechyd Gillian McKeith: mae un o'r goreuon, gallai ddarllen yn llawn yn fan hyn, yn esbonio sut mae'r diet mae hi'n cymeradwyo nid yn unig yn hollol ddiangen, ond os byddai ei chyngor yn gweithio byddai'n achosi i'r corff ffrwydro drwy danio'r llosgnwy yn dy goluddyn! I orffen y set hon dangosodd gopi o PhD Gillian McKeith, wedi'i ddilyn gyda'r wefan lle gall brynu nhw, a gorffennodd gyda PhD yr un fath roedd wedi'i brynu i'w gath. Mae'r ffaith fod y gath yma nawr efo'r un cymhwyster meddygol Gillian McKeith yn amhrisiadwy.

Nesaf roedd Simon Singh, oedd yn defnyddio fformiwla wyddonol i brofi fod y Teletubbies yn ddrwg a thrafod y Theori Clec Fawr drwy drydan ladd gercyn a chware Led Zeppelin yn chwith.

Ar l y toriad ac ychydig o gomedi thema wyddonol cafodd y llwyfan ei ddominyddu gan Yr Athro Brian Cox, cyflwynwr y rhaglen BBC diweddar Wonders of the Universe. Dyma oedd y profiad chwythu'r meddwl eithaf. Yn debyg i Ben Goldacre, cychwynnodd drwy edrych ar adroddiadau newyddion cyffrogarwch am y Hadron Collider Mawr yn Y Swistir (roedd Cox wedi bod yn gweithio arno) ac esboniodd na fyddai'r byd yn cael ei fwyta gan dwll du enfawr o ganlyn rhoi'r peiriant ymlaen. Trwy gydol y noson roeddent yn pwysleisio fod gwyddoniaeth ddim yn beth i ofni, sydd yn wers bwysig i gofio yn oes hysteria cyfryngol dwi'n meddwl.

Yna edrychodd ar wariant llywodraeth ar ymchwil gwyddonol o gymharu meysydd eraill gwariant, a chwarddodd/ebychodd y gynulleidfa mewn dychryn pan ddywedodd fod y llywodraeth wedi gwario mwy o arian yn helpu'r bancwyr allan o'u dyled na'r holl arian sydd wedi cael ei wario ar ymchwil gwyddonol ers dyddiau Iesu Grist.

Dwi ddim yn sicr os mai am ei fod wedi defnyddio geiriau hir gwyddonol, neu os ei fod yn edrych ychydig yn freuddwydiol, ond roeddwn i yn ymdrechu i ddeall mewn rhai llefydd. Ond roedd yn gallu dal fy sylw yn y darnau pwysig i gyd, fel pan esboniodd sut mae teithio drwy amser yn bosib. Do, fe ddarllenais di hyn yn iawn. Paid dyfynnu fi ar y rhifau, ond fe esboniodd sut gallet dreulio 20 mlynedd yn teithio i fan penodol yn y gofod, yna 20 mlynedd yn dod yn l i'r Ddaear, a pan fyddet ti'n cyrraedd adref byddai 5,000 o flynyddoedd wedi mynd heibio!

Yn edrych o gwmpas y 1,500 o bobl yn Neuadd Dewi Sant, oedd i gyd wedi dod i ddysgu rhywbeth am wyddoniaeth, roedd hyn yn beth wirioneddol ysbrydoledig, ac roeddwn i'n falch o weld cymaint o bobl ifanc yno (helo i thewelshboyo welais i yno!), Mae'r Uncaged Monkeys yn teithio Prydain ar hyn o bryd (dyddiadau yma) a byddwn yn awgrymu yn fawr iawn i ti fynd i weld nhw os wyt ti eisiau noson o adloniant gwahanol.

Fe wnaf adael chi nawr gyda'r llun hwn welais ar Tumblr yn y gobaith byddai'n ysbrydoli chi i ddod yn wyddonwyr gwych:

Erthyglau Perthnasol:

Meddygaeth Amgen Cymru

Y Gyfraith Ac Adrodd Gwyddonol

Credyd llun Simon Singh: Richard Freeman

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.