Mis Hanes LHDT: Dod Allan
Nodyn Is-Olygydd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys iaith a themu sydd efallai ddim at ddant pawb, ond mae'n werth ei ddarllen i'r gweddill ohonoch!
Hei, fy enw i ydy Cosmo, fe ddois i allan fel Traws-ddyn mis diwethaf. Dwi wedi bod yn dod allan yn araf ers tua blwyddyn nawr, yn cychwyn yn deu-chwylfrydig (bi-curious), i lesbiad ac yna mis diwethaf roeddwn i wedi cael llond bol o beidio dweud y stori lawn i bawb.
Dwi wedi bod yn isel dros ben am fod rhaid i mi guddio hyn i gyd ac am resymau eraill, a'r noson dois allan fe anafais fy hun. Roddwn mor ofn fy mod i'n gwneud rhywbeth gwirion, felly es i wefan Meic a threulio oriau yn siarad drwy bopeth. Ar l hynny, roeddwn yn teimlo mor dda, fel cefais yr hyder i bostio hwn ar Facebook:
"Dwi'n hoyw, na, dwi'n fwy na hoyw. Dwi'n drawsrywiol a dyma'r tro cyntaf i mi ddweud wrth neb heblaw am fy nghariad a dau o'm ffrindiau gorau. Dwi erioed wedi teimlo'n gyffyrddus yn bod yn ferch. Dwi wedi teimlo fel ffrc am hynny ac am fy mod wedi cael fy mwlio gan bobl am fod yn 'wahanol'. Roedd y genethod eraill roeddwn i'n adnabod pan oeddwn i'n blentyn, yn gwneud cadwynau llygad y dydd ac yn siarad am y bechgyn roeddent yn hoffi, tra roeddwn i yn chwarae gyda chardiau Pokemon. Nid bachgen oedd fy nghrysh cyntaf, geneth oedd hi a nes i ddim dweud wrth neb. Dwi yn wastad wedi gwybod fy mod i'n 'wahanol' ac roeddwn i ofn dweud wrth bobl oherwydd byddant yn beirniadu fi.
Ond ti'n gwybod beth, ff***a nhw os ydynt yn beirniadu fi! Neu unrhyw un fel fi. Dwi'n gwybod r?an fod hi'n iawn i hoffi genethod, a dwi eisiau bod yn fachgen oherwydd dyna pwy ydw i ac fel hyn cefais fy ff***n ngeni. Dwi eisiau byw mewn byd; ble mae pawb yn gyfartal, ble does neb yn defnyddio sothach pitw fel crefydd i guddio tu l iddo wrth iddynt guro miloedd o bobl i lawr gan nad ydynt yn cytuno gyda nhw a Duw a helpant nhw os ydynt yn gwrthwynebu eu hunan gyfiawnder nhw. Dwi eisiau byw mewn byd ble dyw ffyliaid fel y Daily Mail ddim yn defnyddio rhywbeth fel cancr a hunanladdiad fel arfau i ddychryn ni i mewn i gredu eu sothach a'u propaganda nhw. Ble dydynt ddim yn rhoi'r bai ar fandiau fel MCR am blant yn lladd ac anafu eu hunain, pan mewn gwirionedd y gymdeithas ragfarnllyd mae'r ffyliaid yma yn ei orfodi arnom ni sydd yn gwneud i blant fynd yn ff***n wallgof. Yn od iawn mae dweud wrthym ni na fydda ni byth yn ddigon da am fod gennym ni sip i'n corff ac efo amherffeithrwydd yn mynd i fod yn niweidiol i lawer o bobl! Ia, da iawn cymdeithas! Mae cannoedd o bobl yn lladd eu hunain bob wythnos a rhai ohonynt yn ei wneud gan fydda'n well ganddynt farw na byw mewn byd rydych chi'n ddewis iddynt.
Dwi am fod yn onest, neithiwr oedd y tro cyntaf ers hir i mi roi llafn miniwr i'm mraich a thorri fy hun. Ffrciais allan go iawn neithiwr. Roeddwn i'n si?r fy mod i am wneud rhywbeth gwirion felly es ar wefan o'r enw meiccymru.org a threulio tua dwy awr yn siarad yn gyfrinachol gyda nhw am bopeth. I fod yn onest, dwi'n falch fy mod i wedi ffrcio allan gan fod hynny wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i angen help gyda rhai o'r pethau sydd yn digwydd yn fy mywyd ac mae'n hen bryd i mi ddefnyddio'r help sydd ar gael i mi yn iawn.
Mae'n gas gen i'r byd rydym yn byw ynddi ond dwi wedi cael llond bol o eistedd o gwmpas yn cwyno ac yn gwneud diawl o ddim i newid y peth. Felly na, dwi ddim am ladd fy hun, dwi am aros o gwmpas a gwella fel y gallaf gael yn l i'r ysgol, pasio fy arholiadau, helpu pobl a newid y byd yma am y gwell. Felly pls gwranda arna i pan dwi'n dweud fod pethau'n gwella, dim ond ti allai wneud pethau'n well. Ff***a beth mae cymdeithas yn ei ddweud amdanat, nad wyt ti'n berffaith, gan fod pob un ohonom ni yn. Ac nid oes ots os wyt ti'n hoffi'r un rhyw, neu eisiau bod yn rhyw wahanol, neu pa bynnag liw croen sydd gen ti, neu grefydd wyt ti, neu pa mor dew neu denau wyt ti. Rydych chi i gyd yn brydferth. Mae'n uffernol o gawslyd ond mae'n wir! Felly, pls paid brifo dy hun a pls, os wyt ti'n teimlo'n isel chwilia am help achos fel mae'r Mr. Gerard Way hyfryd yn ei ddweud; "Does dim yn ddigon pwysig i anafu dy hun amdano a does dim yn ddigon pwysig i ddiweddu dy fywyd drosto."
Dyma restr o rifau a gwefannau defnyddiol:
www.meiccymru.org - 080880 23456
www.thecalmzone.net/suicide
www.childline.org.uk - 0800 1111
NHS Direct - 0845 4647
www.samaritans.org - 08457 90 90 90
Gan fod y rhain yn llinellau cymorth 0800, maent am ddim ac ni fyddent yn dangos ar y bil ffn. Cofiwch blant, parhewch i nofio."
Cafodd y statws yma 176 o 'hoffi' a 85 o sylwadau, i gyd yn bositif. Dwi'n gwybod fod rhai pobl yn fy ysgol wedi beirniadu fi am wneud y statws yma/dod allan y ffordd yma. Maent yn dweud pethau fel "nid yw'n rhywbeth dylai ti bostio ar Facebook" neu "dim ond ei wneud er mwyn sylw mae hi", sydd wir ddim yn brifo. Ond roedd y bobl sydd yn dweud hyn yn fy nghasu yn barod! Felly dwi ddim yn malio dim beth maen nhw'n feddwl! Wir, ydy nhw mor bitw fel eu bod nhw'n defnyddio fy rhywioldeb i fel rheswm i gael ata i. Mae hynny'n drist a dwi wir yn teimlo'n sori drostynt a'u bywydau anniogel, anwybodus.
Dwi'n gwybod bydd rhai o'r bobl sydd yn darllen hwn yn yr un cwch mi ac yn ei chael yn anodd dod allan fel yr oeddwn i. Ond ti angen gwrando arnaf i, ff***a beth mae pobl yn feddwl amdanat ti. Dwi'n llawer mwy hapus ers i mi ddod allan. Bydd pethau yn gwella, rhaid i ti gael ffydd yn beth dwi'n ddweud. Dwi'n golygu 100% yn beth ddywedais yn y statws yna. Bydd pethau'n gwella, dwi'n addo.
Clicia yma am erthyglau LHDT theSprout
Gwybodaeth – Bod Mewn Perthynas
Gwybodaeth – Hunan-Niweidio
Gwybodaeth – Iselder
TheSproutDirect.co.uk – Darpariaeth LHDT Ieuenctid Caerdydd
Digwyddiadau – Mis Hanes LHDT
Erthygl Berthnasol: I Fod Yn Drawsrywiol
DELWEDD: Mayu ;P







