Meddiannu’r Stryd Fawr
Ar ddydd Iau 1af Awst 2013, mae 11 Y Stryd Fawr, Caerdydd yn agor ei drysau i holl bobl ifanc Cymru.
Am chwe wythnos yn unig rwyt ti'n rhydd i arddangos dy waith, gweld beth sydd gan eraill i ddangos neu ymlacio mewn awyrgylch cyfeillgar!
Yr haf hwn, mae Caerdydd yn ymuno gyda Llundain, Manceinion, Newcastle, Bangor (Gogledd Iwerddon) a Glasgow i groesawu ymgyrch newydd a chyffrous o'r enw somewhereto_re:store, sydd yn ymwneud ag entrepreneuriaid ifanc creadigol yn cael cyfle i gymryd drosodd gofod gwag ar y stryd fawr i wneud y pethau maent yn caru.
Bydd gofod Caerdydd yn siop dau lawr clyd ar 11 Y Stryd Fawr (#highstreetheist go iawn) sydd yn mynd i gael ei drawsffurfio gan bobl ifanc (fel ti) i mewn i lwyfan bywiog mawreddog ar gyfer rhyngweithio creadigol.
View somewhereto_re:store - High Street Heist in a larger map
Clwb Ffilmiau Cwlt, sesiynau acwstig, arddangosfeydd celfyddyd a lluniau, perfformiadau ar lafar, stiwdio recordio, gweithdai a dosbarthiadau meistr, siop cyfnewid a llawer mwy! A phaid anghofio'r te a choffi am ddim ac, wrth gwrs, gorau oll gennych chi bobl ifanc, wif-fi am ddim. Nawr, pa mor cŵl ydy hyn? A dal digon o le ar gyfer dy syniadau di – tyrd a nhw i mewn!
------------------------------
Ar ddydd Iau 1af Awst 2013 mae'r siop yn agor yn swyddogol – gyda digwyddiad lansio mawr, yn cyflwyno ti i flas bach o beth sydd i ddod dros y chwe wythnos nesaf, gyda cherddoriaeth byw, trafodaethau (ychydig bach, paid poeni), yr arddangosfa gyntaf yn agor a llawer mwy.
Bydd pedwar o berfformwyr ifanc cyffrous yn perfformio i ti ar y diwrnod. Yn agor bydd y cerddor addawol ifanc Kizzy Crawford – canwr-cyfansoddwr dwyieithog 17 oed sydd yn cael ysbrydoliaeth o'i etifeddiaeth Cymraeg/Barbadaidd ac yn gobeithio chwalu unrhyw ragdybiaeth sydd gan bobl am gerddoriaeth iaith Gymraeg gydag ysgrifennu hyderus a llais anhygoel.
Yn ymuno gyda hi fydd Sykes – cerddor ifanc sydd wedi cefnogi Mary J Blige a Jay Z! Talent ifanc arall fydd yn perfformio ar y diwrnod fydd Too Young – rapiwr 19 oed, sydd wedi perfformio yn yr O2 Academy ym Mirmingham. Bydd ein llwyfan hefyd yn croesawu'r canwr-cyfansoddwr ifanc Maddie Jones yn cyflwyno ei chymysgedd alawol o jazz, roc a gwerin gyda chefnogaeth llais meddal prydferth.
Yn cychwyn y gyfres o arddangosfeydd cynhelir yn y gofod fydd darn o brosiect blwyddyn gan Polly Homjakina, ffotograffydd ifanc o Felarws, ymroddodd 11 mis o'i hamser yng Nghaerdydd yn dogfennu'r sîn gerddoriaeth byw leol. "Mae'r arddangosiad yma fel adroddiad olaf o beth dwi wedi'i weld trwy'r flwyddyn yng Nghaerdydd, fel teyrnged fi i gerddoriaeth byw'r ddinas – y llefydd, y bobl, yr awyrgylch ei hun," meddai Polly.
Un o'r arddangosfeydd eraill rydym yn cyflwyno i ti ydy 'Photo Drying-Out', profiad cyffrous, sy'n boblogaidd dros y byd – gofod am ddim i arddangos a chyfnewid dy gelf a ffotograffiaeth: tyrd a darn, clipio ef i'r rhaff gyda pheg wrth edrych drwy – neu hyd yn oed casglu – londri lluniau eraill. Erbyn diwedd y chwe wythnos bydd arddangosfa ddiwethaf yn cael ei gynnal yn dangos y canlyniad amryliw o'r cydweithiad celfyddyd gyffrous yma.
Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein llysgennad am yr ymgyrch haf yma yng Nghaerdydd fydd Gary Ryland neu Ragsy, canwr-cyfansoddwr hunan dysgedig o Aberdâr, oedd ar The Voice yn ddiweddar. Yn gogydd am y pum mlynedd diwethaf ac yn breuddwydio am gyfnewid y gegin am y gwyliau, bydd Ragsy yn rhannu ei stori am ddilyn breuddwyd.
------------------------------
Paid colli'r cyfle i gymryd rhan yn yr ymgyrch cyffrous yma: arddangos dy dalent, rho hwb i'r CV, cael profiad uniongyrchol, cyfarfod pobl newydd, neu yn syml dod draw gyda dy ffrindiau i helpu creu'r awyrgylch mae'r gofod yma yn haeddu!
Os wyt ti'n 16-25 oed ac yn awyddus i fod yn rhan o hyn – does dim ots os wyt ti'n artist neu'n gerddor, yn awyddus i wirfoddoli (mae'n gyfle i ti gwblhau oriau cymunedol dy Bac Cymreig yn ogystal â chostau dyddiol o £15), neu os wyt ti eisiau rhoi rhodd o gadair sbâr i ni – tyrd draw a'i roi wrth y bwrdd! Mae dy Stryd Fawr di angen ti!
Am wybodaeth bellach am sut i gymryd rhan e-bostia cat@somewhereto.org
Digwyddiadau – somewhereto_re:store – Lansiad Ymgyrch High Street Heist
Erthyglau – Categorïau – Gwaith a Hyfforddiant
Erthyglau – Categorïau – Diwylliant
Erthyglau Perthnasol: