Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Mae’r Cynulliad Yn Chwilio Am Brentisiaid

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 04/06/2012 at 12:35
0 comments » - Tagged as Work & Training

  • 4

English version

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn chwilio am nifer o brentisiaid newydd.

Mae’r Comisiwn, sef y corff sy’n gyfrifol am weinyddiaeth y Cynulliad Cenedlaethol, yn cynnig pedwar cyfle i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn gwahanol rannau o’r sefydliad.

Byddai’r ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn dysgu wrth iddynt weithio, gydag un diwrnod pob pythefnos wedi’i neilltuo ar gyfer hyfforddi a datblygu, yn arwain at gymhwyster cydnabyddedig mewn Busnes a Gweinyddu.

“Dyma’r cynllun prentisiaeth cyntaf i gael ei redeg gan Gomisiwn y Cynulliad ac mae’n gydnabyddiaeth o botensial pobl ifanc tra’i fod yn eu helpu i ddatblygu sgiliau a phrofiad,” meddai Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd chyfrifoldeb am staff y Cynulliad.

“I’r ymgeiswyr llwyddiannus, mae hwn yn gyfle i weithio i sefydliad sydd wrth wraidd democratiaeth yng Nghymru ac yn gyfle iddynt weld drostynt eu hunain sut mae gwaith y Cynulliad yn effeithio ar bawb yng Nghymru.”

“Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymfalcho yn y ffaith ei fod yn gyflogwr cadarnhaol sy’n rhoi cymorth a chyfleoedd i’w staff ddatblygu a gwneud cynnydd. Dyna pam y dyfarnwyd gwobr ‘Buddsoddwyr mewn Pobl (Safon Aur)’ i ni yn 2010.”

Yn ogystal ’r pedair prentisiaeth bydd Comisiwn y Cynulliad hefyd yn cynnig lleoliadau i raddedigion yng Nghyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad ac yn yr adran Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 11 Mehefin 2012 - mae rhagor o wybodaeth am y prentisiaethau ar gael yma

Gwybodaeth Cyflogaeth a Hyfforddiant   Prentisiaethau a Hyfforddiant

TheSproutDirect.co.uk Gyrfa Cymru Caerdydd a’r From - Gwasanaethau Cynghori i Ieuenctid

Erthyglau Cysylltiedig: 16-24? Di-waith?

Erthyglau Cysylltiedig: Wales Needs Apprentices


DELWEDD: slideshow bob

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.