Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Mae'n Wythnos Gwaith Ieuenctid!

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 20/06/2014 at 10:12
0 comments » - Tagged as People, School Holiday Activities

  • 1

English version // Yn Saesneg

Mehefin 23 – 29 yw Wythnos Gwaith Ieuenctid 2014: digwyddiad blynyddol sy’n cynnig cyfle i weithwyr ieuenctid a phobl ifanc dathlu llwyddiannau a dylanwad gwaith ieuenctid.

Mae yna wastad ddigwyddiadau a chyfleoedd rheolaidd ar draws Cymru i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid, megis Taith Gerdded Fawr Cymru ble roedd dros fil o bobl ifanc o bob cwr o’r wlad yn cerdded rhan o lwybr 1,047 milltir yr arfordir. Os hoffet wybod beth sydd yn digwydd yn dy ardal di, yna clicia ochr dde top y sgrin i gael map o Gymru a dewis dy sir. (Ac os wyt ti'n gwybod am rywbeth sydd yn digwydd sydd ddim ar dy wefan lleol, yna cofia bod posib i ti gyflwyno digwyddiadau yn ogystal ag erthyglau.)

Oes gen ti stori am y dylanwad mae gwaith ieuenctid wedi'i gael ar dy fywyd? Rydym eisiau gwybod!

Trwy gydol Wythnos Gwaith Ieuenctid, byddwn yn cyhoeddi un erthygl y dydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid. Caiff pob erthygl ei chyfieithu a bydd yn ymddangos yn ddwyieithog ar Dudalen Gartref CLICarlein, ble caiff ei darllen gan gannoedd o ymwelwyr o bob rhan o Gymru. Mae ein hasiant cyfrinachol ym mhrif swyddfeydd Wythnos Gwaith Ieuenctid yn dweud efallai bydd gwobrau ar gael i rai fydd yn cyfrannu.

Wyt ti eisiau cyfle i ennill?

Mae cystadlu yn hawdd: anfona erthygl yn ymwneud â gwaith ieuenctid atom. Dy ddewis di ydy beth i gyflwyno: gallai fod yn dysteb am sut mae cyfranogi mewn grŵp ieuenctid wedi helpu ti i fagu hyder neu wneud ffrindiau newydd. Gallet ti adrodd dy hanes yn mwynhau amser bendigedig ar ddiwrnod allan neu ar Benwythnos CLIC. Efallai dy fod di am ysgrifennu dy syniadau am brosiect ieuenctid yn dy ardal, neu dalu teyrnged i weithiwr ieuenctid sy’n haeddu sylw arbennig am yr holl waith da y mae wedi’i wneud. Cyn belled a bydd cysylltiad â gwaith ieuenctid, bydd ganddo gyfle i ennill.

Gellir cyflwyno’r gwaith ar sawl ffurf: paid ag ofni cyflwyno fideos neu gyfryngau eraill os nad wyt ti'n rhy hoff o ysgrifennu! Nid oes cyfyngiad ar nifer yr erthyglau y gallet ti eu cyflwyno, ond cofia bod rhaid iddynt oll fod yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid.

Sut Ydw i'n Cystadlu?

  • Cyflwyna erthygl yn y ffordd arferol, ond cofia gynnwys y geiriau "Wythnos Gwaith Ieuenctid 2014" yn y pennawd
  • Os hoffet gyflwyno rhywbeth sydd eisoes wedi’i gyflwyno ar un o wefannau CLIC, e-bostia'r ddolen at dan@cliconline.co.uk (noda "Wythnos Gwaith Ieuenctid 2014" ym mhennawd yr e-bost)
  • Os hoffet gyflwyno fideo, neu os oes gen ti unrhyw gwestiynau eraill ynghylch cyflwyno gwaith, e-bostia dan@cliconline.co.uk neu gad sylw isod

Rydym yn edrych ymlaen at ddarllen y cyflwyniadau.

Methu meddwl am syniad? Edrycha ar erthyglau llynedd!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.