Mae Rhai Dynion Efo Fagina
Gwadiad: Mae'n debyg nad dyma yw'r peth gorau i mi ysgrifennu oherwydd dwi'n eithaf blin ond dwi'n gobeithio bydd yn helpu rhywun neu'n gwneud iddynt chwerthin o leiaf.
Heblaw am y gamdriniaeth hyfryd dwi'n cael ar Ask FM yn ddyddiol, dwi hefyd yn cael (a dyma'r rheswm am ei gadw) pobl yn gofyn am gyngor ar bob agwedd o stwff LHDT.
Cwestiwn dwi'n cael yn aml ydy am y gwahanol fathau o ryw a gallet ti fod yn fenyw i wryw ac yn hoyw ac ati. Felly dwi wedi penderfynu ysgrifennu crynodeb/cwestiynau cyffredin math o beth am y sawl math o ryw a sut i ymdrin â nhw heb fod yn ffŵl llwyr.
Reit, felly i gychwyn y sylfaenol gyda trawsrywioldeb. Gwryw-i-fenyw a benyw-i-wryw yn blaen ac yn syml. Wel, dwi ddim yn gwybod amdanat ti ond dwi'n meddwl bod y teitlau efallai wedi awgrymu beth sydd yn mynd ymlaen yma.
Yn y Gymraeg mae rhyw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer 'sex' a 'gender' ond mae'n bwysig deall bod y ddau beth yn wahanol iawn. Mae rhyw (sex) yn beth sydd yn digwydd yn dy ddillad isaf di ac mae rhyw (gender) yn beth sydd yn digwydd yn dy ben di. Mae'r meddwl yn rhan fawr o drawsryweddoldeb (os mai dyma wyt ti eisiau ei alw) a hefyd yn ei dderbyn. Mae pobl yn gorfod delio gyda'r ffaith bod rhai dynion efo fagina a rhai genethod ddim ac mae'n rhaid iddynt ddod dros hyn.
Os nad wyt ti'n gallu, dwi'n awgrymu i ti adael oherwydd ti'n gwastraffu dy amser di a fi.
Nawr mae termau 'genderqueer' yn llawer mwy cymhleth.
Mae 'genderqueer' yn derm ymbarél ar gyfer holl fathau rhyw sydd ddim yn ddeuol. Fel:
- Deuryweddol, 'Pangender' – yn wrywaidd ac yn fenywaidd.
- Heb-rhyw, anrhyw neu 'agender' – ddim yn ddyn nac yn ddynes
- Rhyw lifol (Genderfluid) – symud rhwng rhyw
- Trydydd rhyw neu rhyw-arall – pobl sydd ddim yn labelu eu rhyw
Mae'r rhain i gyd yn gorgyffwrdd ac yn pylu i mewn i'w gilydd i greu pelen fawr o stwff wibli-wobli-plygu-rhyw.
Mae rhagenwau yn bwysig iawn wrth siarad gyda rhywun sydd yn traws. I bobl fel fi (deuryweddol) rydym yn hoffi cael ein cyfeirio at fel fo/hi. Oherwydd nad yw 'genderqueer' yn ddeuol, mae rhagenwau yn anodd i osod ac yn gallu achosi llawer o ofid. Felly'r peth gorau ydy mynd efo enw neu 'nhw', a cheisio bod mor niwtral-rhyw â phosib.
Dwi'n gobeithio dy fod di ychydig yn llai dryslyd am y termau ac ati. Nawr dwi eisiau siarad am sut i beidio bod yn ffŵl llwyr i rywun sydd yn traws, oherwydd mae hyn yn rhywbeth mae pobl yn ffaelu gwneud i fi yn ddyddiol.
Rwyt ti angen deall nad yw beth wnaf efo fy nghorff yn ddim o dy fusnes di ac mae'n bryderus iawn faint mae pawb yn poeni am organau cenhedlu.
Ti ddim yn cerdded i fyny at rywun ar ôl cyfarfod nhw ac yna'n dechrau cael sgwrs fawr am beth sydd yn digwydd lawr yn y fan yna felly pam bod hyn yn wahanol am fy mod i'n traws? O ia, dyna ti, tydi o ddim.
"Hei, dwi newydd gyfarfod gyda thi ac mae hyn yn wallgof, ond gad i ni siarad am dy bidyn."
A rhywbeth arall, mae pobl yn dweud wrthyf beth i wneud a pwy ydw i oherwydd yr organau cenhedlu yma. Stopia. Beth wyt ti'n ennill o bwyntio allan yr amlwg mod i wedi cael fy ngeni yn ferch. O da iawn, seren aur i ti. Wnes di lwyddo gweithio hynny allan dy hun? Am glyfar wyt ti.
Mae'n gwaethygu; bydda ti'n meddwl mai pobl gul eu meddwl 'cisgendered' oedd yn rhoi amser caled i mi ond na, mae pobl drawsrywiol eraill hefyd! Mae hyn yn digwydd llawer llai gyda thrawsrywiol 'genderqueer' neu anddeuol oherwydd maent yn tueddu i beidio poeni. Tra mae nifer o rai trawsrywiol deuol yn obsesu gyda rolau rhyw a bod unrhyw beth maent yn teimlo sydd tu allan i'w parth-cysur nhw yn anghywir. Er esiampl, dwi wedi cael pobl yn bod yn greulon ar Tumblr oherwydd bod fy ngwallt i'n hir a dwi ychydig yn 'camp'. Sori heddlu trawsnewid!
Dwi'n meddwl ei fod yn ddoniol sut mae'r mwyafrif o bobl sydd fel hynny yn tueddu peidio pasio mor dda â fi.
Dwi'n gwbl gyffyrddus gyda'r ffaith nad wyf yn ddyn gwrol; dwi'n nerd sydd yn hoffi darllen comigau, yn 'fangirl', yn obsesu efo Harry Potter a Dr Who, yn caru cacennau ac yn hoffi pwy ydw i.
Mae rhyw yn sbectrwm; derbyn hynny.
Canolfan Rhagoriaeth LHDT – Rhwydwaith Traws Pobl Ifanc / Rhadffôn Cymorth LHDT
Gwybodaeth – Perthnasoedd o'r un rhyw
Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch
Erthyglau Perthnasol
- Ganwyd Y Ffordd Hon
- I Fod Yn Drawsrywiol
- Bachgen Ydw I, Nid Peth
- Androgynedd: Fy Stori
- Boneddigion, Boneddigesau Ac Eraill
DELWEDD: drunkenass







