Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Llosgi Ym Mhort Talbot

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 06/05/2009 at 16:04
0 comments » - Tagged as Health

  • sun

English version

Mae merch deg oed o Bort Talbot, Kelly Thompson, wedi dioddef llosgiadau 70% ar ei chorff ar l defnyddio gwely haul heb oruchwyliaeth am 16 munud llawn.

Roedd rhaid i Kelly aros dros nos yn ysbyty Abertawe lle cafodd driniaeth am y llosgiadau. Dywedodd y doctoriaid yn yr uned wrth ei mam, os byddai Kelly wedi aros ar y gwely dau funud yn hirach yna bydda'r ferch deg oed wedi bod angen impiadau croen (skin grafts). Mae'r fam, Sharon Hannaford, yn gandryll fod ei merch deg oed wedi cael camu'r un troed i mewn i salon gwlu haul.

Dywedodd Ms Hannaford. "Roedd hi o dan oed ond nid oedd yna staff o gwmpas i atal hi rhag ei ddefnyddio."

Roedd Ms Hannaford wedi rhoi arian i Kelly i wario yn y ffair roedd hi'n mynd iddo gyda'i chyfnither h?n. Ond pan ddarganfuwyd y ddwy fod y ffair wedi cau, penderfynodd Kelly a'i chyfnither i ddefnyddio'r ganolfan torheulo yn y dref. Rhoddodd Kelly £8 i mewn i'r peiriant oedd yn rhoi 16 munud iddi o dan y gwely haul. Llosgodd ac roedd rhaid iddi fod i ffwrdd o'r ysgol am wythnos.

Dywedodd Ms Hannaford, "Nid oedd neb o gwmpas i roi cyngor ar sut i ddefnyddio'r peiriannau yma sydd photensial o fod mor beryglus."

Mae'r salon torheulo Electrik Avenue efo arwydd mawr yn ffenestr y siop, yn dweud na chai unrhyw un o dan 16 oed ddefnyddio'r gwlu haul.

Dywedodd Nina Goad, o Gymdeithas Dermatolegydd Prydain, "Mae angen gwahardd gwlu haul heb oruchwyliaeth sydd yn gweithio drwy roi arian yn y slot, gan y gallai blant o unrhyw oedran ddefnyddio nhw. Maen nhw'n beryglus dros ben."

Cadarnhaodd cyngor Castell-nedd Port Talbot fod ymchwil yn cael ei wneud yngl?n 'r digwyddiad.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.