Llinell Gymorth Meic Yn Lansio
Yn cael ei lansio heddiw, Meic ydy’r llinell gymorth newydd i blant a phobl ifanc yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Meic, sydd yn fyr am feicroffon, yn llinell gymorth gyfrinachol ac am ddim sydd yn gallu helpu gyda bob math o faterion gan gynnwys problemau efo teulu/ffrindiau, materion tai, bwlio, pryderon iechyd a gwaith, lle i fynd am help yn eich ardal chi neu fel lle i gael lleisio pryderon.
Gall y llinell cymorth helpu cael eich safbwynt ar draws i eraill.
Dywedodd Gavin Thomas, sydd yn cydlynu’r prosiect, ar wefan Newyddion BBC Cymru:
“Mae yna blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd ddim yn gallu cael eu clywed. Rydym yn gweithio mewn tandem efo gwasanaethau fel Childline, a Meic fydd y porth yno yr un pwynt cyswllt i bobl ifanc.”
Mae’r llinellau ar agor o hanner dydd tan 8yh, saith diwrnod yr wythnos. Mae’r gwasanaeth ar gael yng Nghymraeg neu’n Saesneg ar y ffn, e-bost, neges testun neu negeseua sydyn (IM).
Mae’r llinell gymorth i rai 0 25 oed, am ddim ac yn gyfrinachol. Gallwch gysylltu yn y ffyrdd yma:
Ffn: 080880 23456
Testun: 84001
IM/gwe: www.meiccymru.org
E-bost: help@meiccymru.org