Llenorion Ifanc - Y Dylan Thomas Nesaf?
Beth sy’n gyffredin rhwng Dylan Thomas, Cerys Matthews, Rhod Gilbert, Chris Corcoran a Michael Sheen? “Maen nhw i gyd yn Gymraeg” neu “maen nhw’n enwog am fod yn greadigol” ti'n meddwl mai'n siwr neu rywbeth tebyg. Wel, mae’r ddau beth yn wir ond nid hyn yw’r ateb dwi'n feddwl.
Y peth sydd yn cysylltu’r unigolion talentog hyn ydy eu bod yn helpu annog, darganfod a dathlu creadigaeth mewn llenorion newydd. Maen nhw i gyd yn ymglymedig Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru, y wobr llenyddiaeth fwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc.
Wedi’i enwi ar l y llenor gwych ei hun, mae’r wobr £30,000 yn cael ei roi i’r gwaith llenyddol gorau wedi’i gyhoeddi neu gynhyrchu yn yr iaith Saesneg, wedi’i ysgrifennu gan awdur dan 30 oed. Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Rachel Trezise o Ddyffryn Rhondda.
Tra mae’r brif wobr yn cael ei gadw i ysgrifenwyr wedi’u cyhoeddi, mae’r Wobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru yn ymestyn at nifer o bobl ifanc dros Brydain: mae eu helusen DylanEd, yn annog disgyblion ysgol gael angerdd am ysgrifennu, ym mhob ffurf. Efallai dy fod wedi bod yn ddigon lwcus i gael Michael Sheen yn ymweld dy ysgol i berfformio darlleniad.
Mae’r wobr eleni hefyd yn gweld ychwanegiad categori newydd, yn benodol wedi’i anelu at nofelwyr ifanc sydd heb eu cyhoeddi
Gwobr Sony Reader i Lenorion sydd heb eu Cyhoeddi.
Yn cael ei feirniadu gan brif aelod y band Catatonia, Cerys Matthews, mae’r Wobr Sony Reader newydd wedi cael ei greu yn benodol i gefnogi nofelwyr Prydeinig sydd heb eu cyhoeddi o dan 30 oed yn defnyddio fformat llyfrau electroneg drwy'r broses i gyd, o gyflwyno’r ymgais, i’r beirniadu, ac yna cyhoeddi. Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £5,000 a bydd ei llyfr yn cael ei gyhoeddi mewn ffurf e-lyfr ac ar gael i lawr lwytho o wefan Sony UK.
Bydd Cerys, sydd yn gweithio ar ei nofel ei hun, yn ymuno panel o arbenigwyr llenyddiaeth gan gynnwys newyddiadurwr a chadeirydd y panel, Alison Pearson; brenin dramu cyfnod y BBC, Andrew Davies a sylfaenydd y Wobr Dylan Thomas, Peter Stead. Bydd y panel yn dewis tri i’r rhestr fer ac yna’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Seremoni Wobrwyo Gwobr Dylan Thomas ar 1af Rhagfyr.
Dywedodd Cerys: “Fel ysgrifennydd fy hun, dwi’n gwerthfawrogi’r gwaith caled i geisio cyhoeddi llyfr. Mae’r Wobr Sony Reader i Lenorion sydd heb eu cyhoeddi yn rhoi carreg sarn i helpu llenorion newydd i gyrraedd y bwriad terfynol. Dwi’n edrych ymlaen at feirniadu’r categori.”
Sut gallaf ymgeisio?
Dyma’r darn anodd: mae’n rhaid i ti fod wedi ysgrifennu nofel, ac mae’n rhaid iddo fod yn o leiaf 80,000 o eiriau mewn hyd. Gan fod dyddiad cau ymgeision ddiwedd Awst nid yw’n debygol fod amser i ysgrifennu nofel gyfan erbyn hynny, felly mae hwn i’r bobl drefnus iawn sydd wedi ysgrifennu nofel yn barod ac eisiau cael ei gyhoeddi a’i adnabod. I’r gweddill ohonom: o leiaf gall gychwyn ar ein hymgais at flwyddyn nesaf!
Am restr lawn o’r rheolau, gweler yma.
Pwy oedd Dylan Thomas?
Ganwyd Dylan Thomas yn 1914 yn Abertawe. Roedd yn arwr pobl ifanc mewn nifer o ffyrdd: gwrthryfelgar, ond yn hynod o dalentog. Ddim llenor ynysol yn unig ond yn ddiddanwr a daeth ei lais yn adnabyddus yn ei amser roedd i’w glywed ar radio BBC yn aml a teithiodd o amgylch America fel llefarydd hefyd. Ysgrifennodd dramu yn ogystal rhyddiaith a barddoniaeth. Bu farw Dylan Thomas yn 39 oed, er mae ei ddylanwad yn parhau i fod yn amlwg hyd hyn.