Hyfforddiant Haf CLIC
Yr haf hwn mae CLIC yn cynnig hyfforddiant achrededig am ddim i bobl ifanc ledled Cymru.
Os ydych rhwng 11-25 mlwydd oed mae gennych gyfle i greu straeon fideo a dyddiaduron lluniau, beth am roi tro ar ysgrifennu creadigol a dysgu sylfaen sut i baratoi a chyflwyno cyfweliad radio byr.
Mae dyddiadau a lleoliadau'r digwyddiadau i bobl ifanc isod:
Gogledd Cymru - @ WCVA Rhyl
Dydd Iau'r2ail o Awst – Fideo neu Ysgrifennu Creadigol
Dydd Gwener y 3ydd o Awst – Darlledu Radio neu Ddyddiadur Lluniau
De Cymru - @ Llyfrgell Ganolog Cymru
Dydd Mercher y 15fed Awst – Fideo
Dydd Iau'r 16eg Awst – Darlledu Radio neu Ysgrifennu Creadigol
Gorllewin Cymru - @ Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin.
Dydd Llun 20fed o Awst – Darlledu Fideo neu Radio neu Ysgrifennu Creadigol
Os hoffech gymryd rhan a dysgu sgiliau newydd bydd angen i chi fynd gyda gweithiwr ieuenctid neu siarad gyda'ch Golygydd CLIC Lleol (gadewch sylwad isod os nad ydych yn si?r pwy yw'ch un chi).
Am ragor o wybodaeth neu i gadw lle cysylltwch a Rachel Burton ar Rachel@cliconline.co.uk ond sicrhewch eich bod yn gyflym, oherwydd bydd angen i chi gadw lle cyn Dydd Gwener y 29ain o Fehefin 2012.
Newyddion Categoriau Gweithgareddau Gwyliau Ysgol
Gwybodaeth Cyflogaeth a Hyfforddiant Prentisiaethau a Hyfforddiant