Hawlio'ch Llain
English version
Mae The Stake yn gystadleuaeth newydd sydd yn darparu pobl ifanc efo'r cyfle i ecsbloetio eu sgiliau busnes a mentrus er mwyn ennill cyllid gall ddefnyddio ar gyfer syniadau cymuned neu fusnes fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Yn cael ei ariannu gan Channel 4 Education ac mewn partneriaeth Banc Barclays, mae The Stake yn bwriadu dangos fod busnes a menter gymdeithasol yn gallu bod yn greadigol, hwyl ac yn sialens a bod syniadau da ac angerdd yn gallu cael eu gwobrwyo. Mae'r fenter hefyd yn galluogi i'r cyhoedd ehangach benderfynu sut bydd cyfanswm o £100,000 yn cael ei wario.
Bydd mwyafswm o chwe enillydd yn cael hyd at £20,000 (lleiafswm o £1,000), ynghyd chefnogaeth gan gynghorwyr Barclays ar asiantaeth ymrwymiad ieuenctid, Livity, i wneud eu syniadau ddod yn realiti rhwng Ionawr a Mawrth 2012.
Gall yr arian gael ei ddefnyddio i ariannu amrywiaeth o brosiectau; er esiampl, busnes cychwynnol, ramp sglefrio ysgol newydd neu ddigwyddiad unigryw.
Gall unrhyw un rhwng 16 a 21 oed gyflwyno syniadau am sut byddent yn gwario cyfran o'r arian.
I gofrestru ymwela : www.thestake.co.uk
Gad i ni wybod sut mae pethau'n mynd!
Tudalennau Arian