Gwobrau Gwaith Ieuenctid Yn Dychwelyd
#YWEA2015
Ysbrydoledig, brwdfrydig, ymroddgar, parod eu cymwynas... a yw’r geiriau hyn yn ddisgrifiad o weithiwr ieuenctid neu brosiect ieuenctid y buoch chi’n ymwneud ag ef?
A oes gweithiwr ieuenctid neu brosiect gwaith ieuenctid wedi’ch cynorthwyo â sefyllfa anodd? Wedi rhoi cyngor defnyddiol i chi? Neu wedi gwneud i chi feddwl eu bod yn haeddu gwobr am y gwaith caled a wneir ganddynt?
Os felly, gallwch ddweud diolch trwy enwebu eich gweithiwr ieuenctid neu brosiect gwaith ieuenctid am wobr rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid.
Bydd Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid Cymru yn ôl ddydd Iau, 19 Chwefror 2015. Dyma ddigwyddiad i ddathlu’r gwasanaeth ieuenctid ac yn bwysicach na dim, gweithwyr ieuenctid mwyaf ymroddedig a thalentog Cymru.
Eleni, rhoddwyd 10 gwobr i weithwyr ieuenctid ymroddgar, ysbrydoledig a brwdfrydig, ac i brosiectau ieuenctid rhagorol. Cyflwynydd y noson oedd Tudur Owen o S4C ac roedd y telynor a’r canwr Ieuan Jones a Chôr Ysgol Glanaethwy yno yn diddanu.
Mae gwobrau 2015 yn gyfle i Gymru gydnabod a dathlu’r gweithwyr ieuenctid mwyaf rhagorol a’r prosiectau gwaith ieuenctid mwyaf rhagorol a gynhaliwyd o fis Gorffennaf 2013 i fis Gorffennaf 2014.
Dyma rai o’r categorïau yn 2015:
- Gweithiwr Ieuenctid Rhagorol.
- Prosiect gwaith ieuenctid rhagorol sy’n cefnogi pobl ifanc i gael addysg, gwaith neu hyfforddiant
- Prosiect gwaith ieuenctid rhagorol sy’n cefnogi a hyrwyddo diwylliant Cymru
- Prosiect gwaith ieuenctid sy’n cefnogi iechyd a lles pobl ifanc
- Prosiect gwaith ieuenctid sy’n cefnogi datblygu sgiliau newydd ar gyfer pobl ifanc
- Prosiect gwaith ieuenctid rhagorol mewn ysgol
- Prosiect gwaith ieuenctid byd-eang rhagorol
- Prosiect gwaith ieuenctid celfyddydol rhagorol
- Prosiect fforwm gwaith ieuenctid rhagorol
Oedd digwyddiad 2014 at eich dant? Wrth gyflwyno enwebiad gallwch chi a’ch gweithiwr ieuenctid gael y cyfle i fynd i ddigwyddiad 2015 ym mis Chwefror.
I enwebu person neu brosiect am wobr plîs darllenwch y canllawiau a llenwch y ffurflen enwebu sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Bydd rhaid anfon pob bob enwebiad naill ai drwy e-bost i youthworkexcellenceawards@wales.gsi.gov.uk neu drwy’r post at:
Rebekah Hurst
Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ
15 Medi 2014 yw’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.
Holwch MEIC os oes angen cymorth arnoch i wneud hyn, maent yn hapus i helpu unrhyw amser o'r dydd neu nos, bob dydd o'r flwyddyn.
Efo diddordeb mewn perfformio yn y seremoni wobrwyo? Bydd Yn Seren
Gwobrau Eich Dewis Chi – Pleidleisio Fideo Yn Agored