Gwobrau CLIC & 21 Mlynedd O’r CCUHP Yn Y Senedd
Gwahoddwyd pobl ifanc o dros Gymru i’r Senedd ym Mae Caerdydd ddoe o ddathlu pen-blwydd y CCUHP yn 21 oed. Trefnwyd y digwyddiad gan Cazbah ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn dod a phobl ifanc a sefydliadau at ei gilydd i ddathlu hawliau plant a phobl ifanc ac i ganolbwyntio ar gyfryngau positif pan ddaw at bobl ifanc.
Yn cael ei gyflwyno gan Sam Ebenezer ac ein Paul Magee ni o’r Grŵp Golygyddol Cenedlaethol, roedd y gweithgareddau yn ystod y dydd yn rhoi gwybodaeth i bobl ifanc allu cael at y cyfryngau a chyflwyno newyddion, barn a syniadau eu hunain.
Cychwynnwyd gyda sesiwn cwestiwn ac ateb drwy ddefnyddio padiau pleidleisio rhyngweithiol. Gofynnwyd i’r bobl ifanc sut roeddent yn teimlo maent yn cael eu portreadu a phrofwyd eu gwybodaeth am y CCUHP Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plant ac nid Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Gath fel atebodd rhai pobl yn ddigrif!
Rhoddodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, araith fywiog a deniadol i’r gynulleidfa ifanc, ar un pwynt yn annog nhw i wneud y sŵn mwyaf bosib fel bod y Gweinidogion y Cynulliad oedd yn gweithio yn yr adeilad yn sicr o glywed lleisiau plant a phobl ifanc! Roedd neges glir yn cael ei gyfleu y dylai pobl ifanc deimlo eu bod yn gallu mynegi eu hunain heb ofn stereoteipio negyddol yn y cyfryngau prif ffrwd.
Dilynwyd gyda chyfres o weithdai, gyda dewis o ffotograffiaeth/dylunio, newyddiaduraeth/gohebu a chyflwyniad i becyn cymorth ar y cyfryngau sydd wedi’i ddatblygu i roi’r sgiliau i bobl ifanc gael mynediad i’r cyfryngau. Roedd hefyd cyfle i ymweld stondinau arddangos y sefydliadau i gyd gyda CLIC yn gwahodd pobl ifanc i fod yn ohebwyr a gwneud cyfweliadau fideo ar bwnc o’u dewis. Cafodd golygiad byr fideo yn cysylltu’r holl gyfweliadau at ei gilydd ei ddangos ar ddiwedd y dydd.
Trwy gydol y dydd, roedd cymysgedd gwych o adloniant yn cael ei gyflwyno gan bobl ifanc gan gynnwys band dur o Ysgol Gynradd Oakfield, grŵp dawns Funk Fatale, Cr y Cwm, myfyrwyr celfyddydau perfformio o Goleg Castell-nedd Port Talbot a pherfformiad acwstig gwych arall gan Paul Magee. Roedd y bws VIBE Experience wedi’i barcio tu allan i bobl ifanc gael mynd i’w archwilio.
Canolbwyntiodd araith y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, ar y ffaith dylai pobl ifanc dderbyn cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau a llwyddiannau positif. Fe sialensiodd y delweddau gwyrgam sydd yn aml yn cael ei roi gan y cyfryngau, yn amlygu fod yr esiamplau eithafol hyn yn cael ei selio ar leiafrif bach o bobl ifanc. Ond mae effaith hyn yn cael ei deimlo gan BOB person ifanc ac yn effeithio canfyddiad pob cenhedlaeth o bobl ifanc.
Aeth Huw Lewis yn ei flaen i gyhoeddi’r enillwyr a chyflwyno gwobrau am y Gystadleuaeth a Gwobrau Geir-IAU/CLIC gan gynnwys Dylan Gallanders o Wrecsam am ‘Delwedd Annheg’ a Grŵp Ieuenctid Bro Morgannwg am y Rap Cyfranogi.
Erthygl Fwyaf Ysbrydoledig CLIC
Yn cael ei ddewis gan ddefnyddwyr cofrestredig CLIC, yr erthygl hon gafodd ei bleidleisio yn unfrydol fel yr un fwyaf ysbrydoledig allan o ddewis o 59 erthygl wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc.
Mae’r erthygl gan Josh Lovell o’r enw “Rhowch Gyfle I’r Ifanc” yn cwestiynu pam nad yw pobl ifanc yn cael pleidleisio yn 16 oed. Yn anffodus nid oedd posib cysylltu gyda Josh mewn digon o amser iddo gael i’r digwyddiad felly rydym yn postio ei wobr iddo.
Cyfrannwr Gorau Cyffredinol CLIC
Meini prawf y wobr hon oedd cyfuniad o’r nifer o erthyglau wedi’u cyflwyno ac ymrwymiad gwirfoddol y person ifanc i CLIC a’i weithgareddau. Roedd y panel beirniadu o CLIC yn ei chael yn amhosib dewis rhwng dau berson ifanc cysegron a brwdfrydig felly penderfynwyd y dylai’r ddau ohonynt ennill y wobr! Doedd yr un ohonynt yn gwybod eu bod wedi ennill, roeddem wedi dweud wrth y ddau ein bod angen cymorth gyda CLIC ar y diwrnod!
Enillydd cyntaf Cyfrannwr Gorau Cyffredinol CLIC ydy Gareth John o Rondda Cynon Taf.
- Yn wreiddiol roedd Gareth ar leoliad profiad gwaith ar gychwyn datblygiad CLIC, ac yn ystod y cyfnod hwn dangosodd ddiddordeb brwd yn y prosiect a rhoddodd syniadau am ddatblygiadau ar gyfer gwefannau siroedd lleol.
- Yn fis Mehefin 2009 cafodd gynnig y cyfle i fynychu’r preswyl cytaf Grŵp Golygyddol Cenedlaethol CLIC yn Sir Ddinbych i ddatblygu’r gwefan CLIC Cenedlaethol.
- Ers hyn di ond un preswyl mae wedi’i golli a pan lansiodd ei wefan lleol daeth yn aelod gweithgar o’r Grŵp Golygyddol Lleol i WICID.
- Mae wedi ysgrifennu 33 erthygl, yn aml yn gadael sylwadau ar erthyglau pobl ifanc eraill, yn cynnig barn ac anogaeth.
- Mae Gareth mewn cysylltiad cyson gyda Golygydd Cenedlaethol CLIC, a bob tro’n awyddus i ddod yn rhan o ddatblygiadau.
- Ei erthygl “Pls Lladrata Fi Ffordd Eithafol o Brofi Peryglon Rhwydweithio Cymdeithasol” oedd yr erthygl gan ddefnyddiwr CLIC cofrestredig a gafodd y mwyafrif o bleidleisiau yn y categori Erthygl Fwyaf Ysbrydoledig, yn dod yn ail yn gyffredinol.
- Mae bellach yn Is-Olygydd WICID y wefan leol yn Rhondda Cynnon Taf a cyflwynodd eu datblygiadau lleol yn y Gynhadledd Gwybodaeth CLIC diweddar.
Ail enillydd Cyfrannwr Gorau Cyffredinol CLIC ydy Jess Preddy o Gastell-nedd Port Talbot.
- Mae Jess hefyd wedi dod yn rhan o CLIC yn y preswyl Grŵp Golygyddol Cenedlaethol cyntaf ym Mehefin 2009 ac wedi bod yn offerynnol yn awgrymu ac yn sefydlu newidiadau i’n Hadran Gwybodaeth CLIC. Fel Gareth mae hi wedi parhau yn ei ymglymiad a hefyd wedi methu dim ond un preswyl ers hyn.
- Mae hi wedi ysgrifennu 13 erthygl addysgiadol, brofoclyd i’r meddwl ac ysbrydoledig, gan gynnwys un o’r enw “Beio Pawb Yr Un Fath” sydd yn amlygu’r ffordd mae pobl ifanc wedi cael eu portreadu yn negyddol yn y cyfryngau. Mae hi hefyd yn gadael sylwadau yn aml ar erthyglau pobl ifanc eraill yn ogystal hybu CLIC ble bynnag y bydd hi.
- Pan roedd Gwasanaeth Eiriolaeth, Gwybodaeth a Chyngor MEIC yn paratoi i lansio, gwirfoddolodd Jess i helpu rhoi prawf ar y llinell a’r ymgynghorwyr i sicrhau y byddent yn barod i ddelio gydag amrywiaeth o faterion a phryderon pobl ifanc. Mae hi yn parhau i roi prawf ar y gwasanaeth hwn o bryd i’w gilydd!
- Mae Jess mewn cysylltiad cyson ac yn gwirfoddoli ei hamser a’i ymdrech yn rhwydd i gynorthwyo gyda datblygiadau a digwyddiadau.
- Fel cyflwynydd yn y Gynhadledd Gwybodaeth CLIC diweddar, rhoddodd berfformiad eithriadol a datblygodd y prif gyflwyniad am CLIC a MEIC sydd am gael ei drosglwyddo i ysgolion, canolfannau ieuenctid, colegau a’r preswyl Ddraig Ffynci nesaf yn fis Chwefror 2011.
Ar ran y Tm CLIC, da iawn a llongyfarchiadau i’r ddau ohonoch!
Ar y cyfan roedd hi’n ddiwrnod diddorol a hwyl yn dathlu’r CCUHP gyda neges bwerus a chlir mae’r cyfryngau angen newid eu ffocws i lwyddiannau positif pobl ifanc, stopio camarwain y mwyafrif a chreu canfyddiadau gwyrgam. Rhowch y clod mae’r bobl ifanc yn ei haeddu.