Gwirfoddoli Yn India
English version
Gan Lucy Bower
Wedi gadael Coleg Gorseinon, doeddwn i ddim yn sicr iawn beth roeddwn eisiau gwneud ond doeddwn i ddim yn meddwl fod Prifysgol yn gweddu fi! Meddyliais am flwyddyn 'Bwlch' ond gan fy mod i'n ddi-waith, roeddwn yn ei chael yn anodd iawn i gynilo digon o arian i gychwyn. Roeddwn wedi bod yn gwneud ychydig o wirfoddoli yn lleol am dipyn ac roedd y profiad gwirfoddoli yma yn helpu fi i ennill lle ar y Prosiect Platform 2 (Adran Datblygiad Rhyngwladol, Cymorth Cristnogol ac Islamic Relief). Cefais fy newis i ymuno thm bychan am brofiad gwirfoddoli anhygoel yn India.
Yr Hydref diwethaf, dim ond mis ar l fy mhen-blwydd yn 18 oed, teithiais i Palampur, Himachal Pradesh yng Ngogledd India gyda gr?p o ddeg o bobl ifanc o dros Brydain a gweithiais am 3 mis mewn cymuned fach yn y Himalayas. Er nad oedd y llety yn 5 seren, roedd y t? lle roeddem yn aros wedi cael ei adeiladu yn bwrpasol i wirfoddolwyr ac roedd yr olygfa o'r Himalayas yn olwg anhygoel i ddeffro iddo pob bore!
Yn ystod yr amser roeddwn yn Palampur, gweithiais gyda'r gymuned leol i gychwyn Canolfan Gofal Dydd Plant a dysgu Hindi, Bahari (tafodiaith leol) a Saesneg sylfaenol i rai 2-6 oed. Roeddwn hefyd yn dysgu Saesneg i enethod a bechgyn 14-19 oed mewn Clwb Ar l Ysgol yn yr Ysgol Uwchradd leol yn Kandi Drognu,
Pan es i India, es i a bag llawn deunydd celf a chrefft a dangos llawer o chwarae anniben i'r plant! Es a pheli rygbi hefyd a chyflwyno nhw i'n 'gm genedlaethol'.
Er ein bod yn gweithio'n galed yn ystod yr wythnos, pob yn ail benwythnos roeddem yn cael dau ddiwrnod i ffwrdd i wneud ychydig o deithio. Pan roedd gennym benwythnos i ffwrdd, byddwn yn treulio oriau ar fysys lleol ar ffyrdd tolciog i gyrraedd y trefi cyfagos, yn ymweld themlau ac yn ceisio chwaraeon anghyffredin fel 'zorbing'.
Fy mhrif hobi ydy ffotograffiaeth ac roedd Platform 2 a Chymorth Cristnogol yn caniatu i mi gael rhai o'r lluniau wedi'u printio ar gyfer arddangosfa. Ers dychwelyd i Abertawe rwyf wedi bod yn siarad grwpiau a hefyd wedi gweithio gyda disgyblion yn Ysgol Pentrehafod ar eu Diwrnod Dinasyddiaeth i ddweud wrthynt am wirfoddoli gyda Platform2.
Yn ddiweddar rwyf wedi cael fy newis am le ar 400 DU - Tsiena Cyngor Prydeinig – ymweliad astudiaeth deg diwrnod ym mis Gorffennaf i Tsiena ar gyfer arweinwyr ifanc gyda'r Gynghrair Ieuenctid Tsiena Gyfan (ACYF) a'r Cyngor Prydeinig yn Tsiena. Pwrpas yr ymweliad astudiaeth ydy i ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc i ddatblygu eu hunain fel dinasyddion byd-eang, i ddeall diwylliannau eraill; ac i weithio gydag eraill yn lleol ac yn rhyngwladol ar faterion allweddol sydd yn wynebu'r byd.
Os byddai unrhyw grwpiau Pobl Ifanc yn hoffi i mi ddod i siarad am fy mhrofiadau yn India a Tsiena (ar l i mi ddychwelyd) gallent gysylltu gyda fi trwy Golygydd Cenedlaethol CLIC: ryan@cliconline.co.uk.