Gwedda’r Diafol Yn l I Uffern
Mae Pray The Devil Back To Hell yn ffilm dogfen am sut lwyddodd grŵp bach o ferched yn Liberia wedi rhoi diwedd i ryfela cartref a sefydlu heddwch yn eu gwlad, trwy bŵer protest rhesymegol a heddychol.
Mae cyfweliadau gyda nifer o’r ffigyrau allweddol sydd ynghlwm, yn ogystal llawer darn ffilm wedi’i dynnu yn y cyfnod ac yn y llefydd allweddol.
Mae’r ddwy elfen yma wedi cael ei wneud yn drawiadol iawn; mae’r cyfweliadau yn amrywio o’r prif gyfrannwr, a’r ferch gychwynnodd y mudiad y merched, Leymah Gbowee, i ferched oedd yno ac wedi arsylwi ei gwaith, a hyd yn oed rhai o’r brwydrwyr gwrthryfela a gytunodd heddwch yn y diwedd.
Mae’r darnau ffilm yn aml yn rymus ac yn ddidwyll, wedi cael ei saethu ym mhlith y pentrefi wedi’u difrodi gan y rhyfel, yng ngorymdeithiau’r merched ac yn eu heglwysi, yn y trafodaethau heddwch yn Ghana mae pob cam o’r digwyddiadau wedi cael eu dal ar ffilm ac yn creu rhywbeth hudol i wylio.
Mae hefyd yn cyflwyno cymaint o hanes tystiolaeth bersonol o’r stori ag y gallet obeithio amdano. Mae’n nodweddiadol nad ydynt wedi defnyddio unrhyw ffilm gallai gael ei ddisgrifio fel bod yn drallodus, dwi’n tybio fel gall y ffilm gael ei ddefnyddio mewn gosodiad addysgiadol.
Mae’r ffilm yn ysbrydoli, ac mae’r neges yn bwysig. Mae gweld y merched yma yn sefyll i fyny ac yn ymladd yn effeithiol er mwyn buddugoliaeth synnwyr cyffredin dros dreisio yn anhygoel maen nhw’n barod i dderbyn camdriniaeth, trais a hyd yn oed bod mewn parth rhyfel, gan fod y dewis arall yn golygu caniatu llawer gwaeth.
Y neges bwysicaf i mi oedd bod y mudiad merched Liberia yn cynnwys merched Cristnogol a Mwslimaidd. Mae’r ddau yn cael eu cyfweld, a’r ddau yn esbonio’n rhesymol fod “y fwled ddim yn pigo a dewis, Mwslim neu Gristion,” felly byddai’n rhaid iddynt weithio gyda'i gilydd i gyflawni heddwch.
Gwneud synnwyr, ond mae’n bechod fod pobl, yn gyffredinol, ddim yn gallu gweld pellach na’u crefydd am rywbeth mwy pwysig.
Yn anaml ydwyf i’n hoff o ddogfennau, ond mae’r un yma yn werth ei wylio. Mae’n ddiddorol yn gyson, ac mae’r swm o ffilm o sefyllfaoedd lle byddai wedi bod yn anodd i ffilmio yn rhyfeddol; fel eu cynulleidfa gyda’r arlywydd/arglwydd rhyfel Charles Taylor, neu yn y trafodaethau heddwch Cenhedloedd Unedig yn Ghana.
Mae’n stori mor annhebygol fel ei fod yn ymddangos i fod wedi cael ei ysgrifennu gan nofelydd neu ysgrifennwr sgriptiau, ac mae’r ‘prif gymeriad’ Leymah mor angerddol, carismatig ond pwyllog fel y gallai wedi bod yn greadigaeth ffuglen.
Ond, yn amlwg, mae hi a’r stori yn wir, yn gwneud hwn yn ffilm wirioneddol ysbrydoledig.
Gwefan Swyddogol
Tudalen Y Byd CLIC