Galwadau Am Gyfraith Bwlio Syber
Yn dilyn achos diweddar o hunan laddiad mae llawer o alw i wneud bwlio syber yn drosedd. Mae’r elusen BeatBullying wedi cynnig y cyflwyniad o Ddeddf Bwlio Syber i gosbi pobl sydd yn cam-drin eraill ar-lein.
Mae BeatBullying wedi dechrau ymgyrchu am newid i’r gyfraith ac wedi cynhyrchu deiseb ar-lein a threfnu gorymdaith hyd yn hyn, er mwyn dadlau am adolygiad o’r cyfreithiau presennol, dywedont wrth y cyfryngau: “Rydym yn credu y dylai cyflwyno mwy o ddeddfwriaeth i gefnogi’r system bresennol mewn llywodraeth, ac os ydy Deddf Bwlio Syber yn ddeddfwriaeth angenrheidiol yna bydd yr Adolygiad Gwrth-fwlio rhyngadrannol yn fflagio hyn ac yn rhoi’r Llywodraeth mewn safle unigryw i ddylanwadu newid.”
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb drwy ryddhau datganiad gan yr Adran Addysg yn esbonio fod y Llywodraeth yn ymroddedig i daclo’r mater, ond yn dymuno gweithio o fewn y fframwaith cyfreithiol presennol. Dywedodd Gweinidog Ysgolion Nick Gibb: “Yr wythnos hon rydym eisiau gyrru neges glir i bob plentyn a pherson ifanc os ydynt yn cael eu bwlio yn yr ysgol neu du allan mewn unrhyw ffordd, i adrodd hyn i athro neu oedolyn maent yn ymddiried ynddynt, ac rydym yn disgwyl i ysgolion weithredu’n gyflym.”
Mae achosion o fwlio syber wedi cynyddu dros y blynyddoedd wrth i rwydweithio cymdeithasol ddod yn fwy poblogaidd ac mae niferoedd cynyddol o bobl ifanc yn defnyddio safweoedd fel Facebook neu MySpace i ryngweithio gyda’i gilydd. Mae pryderon fod rhwydweithiau cymdeithasol wedi bod yn araf i ymateb i fwlio syber a bod mesuriadau angen bod mewn lle i addysgu pobl ifanc mewn sut i amddiffyn eu hunain ar-lein.
Mae’r NSPCC yn disgrifio bwlio syber fel “defnyddio ffonau symudol a’r rhyngrwyd i boeni, bygwth a chodi cywilydd ar unigolyn”. Mae esiamplau o’r rhain y cynnwys, “negeseuon testun sarhaus, ‘sexting’, Facebook, Twitter a MySpace.”
Bu Laura Davies o Meic Cymru, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru, yn mynychu cynhadledd NSPCC yn ddiweddar ar Berthnasau Parchus a thrafod yr effaith gallai gael ar ddioddefwyr.
“Mae’n ymddangos fel bod bwlio syber yn dod yn ffordd boblogaidd o fwlio ymysg pobl ifanc ac mewn rhai ffyrdd gall y canlyniadau fod yn fwy dinistriol nag bwlio wyneb i wyneb. Fe all ddianc oddi wrth fwlio yn yr ysgol neu ar y bws pan fydd y person ifanc yna ddim yn yr amgylchedd hwnnw ond, mae bwlod syber yn gallu cyrraedd eu dioddefwyr bron ymhob man ac ar unrhyw amser gyda defnydd technoleg ddigidol.”
Mae Laura yn meddwl nad yw ateb ymarferol i’r broblem wedi’i ddarganfod eto, “Sut allwn ni stopio’r peth? Mae’r cwestiwn dal heb ateb ac mae’n rhywbeth mae pobl broffesiynol sydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc angen gwneud mwy o ymchwil iddo.”
Roedd gan Laura ychydig o gyngor i bobl ifanc sydd yn ansicr sut i amddiffyn eu hunain ar-lein: “Rhai ffyrdd o geisio atal bwlio syber fyddai i roi rhifau PIN neu gyfrinair ar dy ffn symudol neu gyfrifiadur fel bod pobl eraill ddim yn gallu hacio i mewn, addasa dy osodiadau preifatrwydd hefyd ar wefannau fel Facebook a Twitter, mae ganddynt adrannau ar eu gwefannau yn esbonio sut i wneud hyn.”
Os wyt ti’n poeni am fwlio syber gall cysylltu llinell gymorth Meic.
Maent ar agor 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos a gall cysylltu nhw drwy ffn, e-bost, neges testun a negeseuo sydyn (IM). Mae Meic yn gyfrinachol, yn anhysbys, am ddim, ac ar gyfer ti.
Meic - gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i dy fywyd.
Ffn: 080880 23456
Neges testun: 84001
IM/gwe: www.meiccymru.org
IMAGE:
Stop Cyber Bullying Day by > ange <