Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Fy Wythnos Fel Sproutiwr

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 08/10/2010 at 15:34
0 comments » - Tagged as Work & Training

  • ellie

English version

Roeddwn wastad wedi bod diddordeb mewn newyddiaduraeth,  ac yn ben set ar ddod yn newyddiadurwr chwaraeon wedi gadael y brifysgol, felly pan ddaethom i wybod am brofiad gwaith flwyddyn ddiwethaf penderfynais y byddwn yn hoffi bod yn rhan o rywbeth ar hyd y llinell hon.

Roeddwn i wedi bod mewn gweithdy Sprout yng ngwyliau’r haf 2009, ac wrth fy modd gyda’r syniad o’r wefan.

Cysylltais golygydd cenedlaethol CLIC Ryan i weld os byddwn i yn gallu mynd i ProMo-Cymru sydd yn rhedeg theSprout.

Yn garedig iawn fe ddywedodd “ia”[Boi ‘ia’ ydw i! ;O golygydd cenedlaethol] a dyma fi, yn eistedd yn swyddfeydd ProMo-Cymru yn ysgrifennu erthygl ar fy wythnos fel newyddiadurwr  mini Sprout, ac mae’n falch gen i ddweud fod yr wythnos hon wedi gwneud fi’n hyd yn oed mwy sicr fy mod eisiau bod yn newyddiadurwr!

Dydd Llun 4 Hydref
Cyrraedd yn Ysgol Uwchradd Cantonian cynhyrfus yn fuan am chwarter wedi wyth. Roeddwn i yno efo Arielle (golygydd Sprout) yn gwneud sesiwn defnyddiwr gyda nifer o grwpiau mawr o ddisgyblion blwyddyn 9. Roeddwn i’n prysuro fy hun yn helpu’r disgyblion gychwyn cyfrif ar wefan theSprout ac yn cynorthwyo nhw i ysgrifennu erthyglau.

Dydd Mawrth 5 Hydref
Cyrhaeddais stiwdios dylunio Burning Red am ddeg o’r gloch yn teimlo nerfau annisgwyl. Pan gyrhaeddais cefais fy nghyflwyno i’r tm a theimlais yn gartrefol yn syth. Fe gymerodd pawb yr amser i ddangos i mi beth oeddent yn ei wneud, a chefais ddysgu am eu cwmni a’r prosiectau amrywiol maent yn rhan ohonynt. Dangoswyd i mi sut i ddefnyddio’r meddalwedd defnyddir i greu eu dyluniadau. Roedd hyn yn hollol newydd i mi ac, er roeddwn i wedi gwneud TGAU graffeg, roedd y meddalwedd yn yr ysgol yn sylfaenol iawn. Roeddwn i’n cael llwytho baneri a gweld tu l i lenni’r wefan Sprout a sut roedd popeth yn cael ei roi at ei gilydd. Doedd fy nghreadigaeth ddim yn agos atyn nhw, ond fe fwynheais ddysgu am bopeth maent yn ei wneud ac mae’n gwneud i mi feddwl am newid fy llwybr gyrfa o newyddiaduraeth i ddylunio.

Dydd Mercher 6 Hydref
Ar l cyfarfod Lo yn dref yn fuan i gael nifer mamoth o gylchgronau amrywiol, aethom yn l i Burning Red i gychwyn darllen drwyddynt. Yn edrych drwy’r deuddeg cylchgrawn roedd rhaid i mi bigo allan pa gynllun dylunio, lluniau, ffont neu ddarnau od oedd yn tynnu fy llygaid. Ac, yn bod yn Fiss Drefnus, cynlluniais restr gyda rhifau’r tudalennau a phopeth i wneud bywyd yn haws. Roedd hwn i helpu nhw gael syniadau o beth mae pobl ifanc yn hoffi i helpu creu eu cylchgronau. Cefais hefyd gyfle i greu ffont fy hun i weithdy ‘Go Font Yourself’ ar 9 Hydref, a chreu cwpl o fathodynnau yn defnyddio eu meddalwedd (gweler delwedd). Roedd fy nyluniadau i gyd yn stwff sylfaenol ond roedd yn grt cael dod i arfer gyda sut i ddefnyddio’r feddalwedd.

Dydd Iau 7 Hydref
Diwrnod cyntaf yn swyddfeydd ProMo-Cymru, a chyfarfod mwy o bobl groesawgar. Fe gaeth Dan fi i ysgrifennu erthygl gyfoes am y cerdyn ‘iff’ newydd Bws Caerdydd. Wrth ymchwilio darganfyddais ei fod yn chwarae ar y gair ‘Cardiff’ oedd ddim yn mynd i lawr yn rhy dda ar y raddfa hiwmor! Dysgais am y cwmni hefyd a sut mae’n gweithio a beth ydy rl gwahanol bobl yn y cwmni. Dangoswyd i mi hefyd llawr o ystadegau am y gwefan Sprout a gweld sut mae’n bosib cadw golwg ar faint o bobl sydd wedi edrych ar y tudalennau.

Dydd Gwener 8 Hydref
Diwrnod diwethaf profiad gwaith, a dwi wedi mwynhau fy hun gymaint fel nad ydw i eisiau mynd yn l i’r ysgol dydd Llun ac eistedd yn nhrebl Cymraeg, ond mae’n rhaid i mi adael y byd gwaith ac wynebu normalrwydd unwaith eto. Gadawodd Dan ychydig o waith i mi wneud felly dyna fues i’n gwneud pan gyrhaeddais heddiw. Ar l gorffen hyn cychwynnais ysgrifennu’r erthygl hwn fel bod y ‘sproutwyr’ i gyd yn gwybod beth fues i’n gwneud ar fy wythnos profiad gwaith!

Hoffwn ddiolch i bawb am wneud fy wythnos mor bleserus ac yn gwneud i mi sylwi fod y byd gwaith ddim i weld mor ddrwg o gwbl!

Eisiau dod i ProMo-Cymru am wythnos ar brofiad gwaith? E-bostia pat@promo-cymru.org neu galwa 029 2046 2222.

LINCIAU

ProMo-Cymru

Burning Red

Tudalennau Cyflogaeth a Hyfforddiant

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.