Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Fflic Flac: The Social Network

Posted by archifCLICarchive from National - Published on 21/10/2010 at 19:45
0 comments » - Tagged as Movies

  • Social Network

English version

The Social Network
Cyfarwyddwr: David Fincher
Serennu: Jesse Eisenburg, Andrew Garfield, Justin Timberlake.
12A, 120 munud

David Fincher: Y cyfarwyddwr gorau yn ein cenhedlaeth erioed i beidio ennill Oscar? Eithaf tebyg. Cafodd Fight Club a Seven ddim eu henwebu hyd yn oed, er eu bod yn ymddangos yn rheolaidd ar restrau'r ffilmiau gorau erioed. Zodiac oedd un o’r ffilmiau gorau yn 2007, ond dim enwebiad. Cafodd ei enwebiad cyntaf am gyfarwyddwr gorau am y ffilm gweddol Curious Case Of Benjamin Button. Os byddwn i’n ddyn gamblo, byddwn yn dyfalu fod Fincher, fel Scorsese, yn ennill Oscar am ffilm sydd ddim yn ei haeddu’n arbennig, ond oherwydd ei fod o yn bersonol yn ei haeddu. (Enillodd Scorsese Cyfarwyddwr Gorau o’r diwedd am y ffilm The Departed.)

Mae The Social Network yn bendant yn ddigon da i gael enwebiad i Fincher am Gyfarwyddwr Gorau, a gallwn ei weld yn cael y wobr am ei gorff cyfunol o waith, yn union fel Scorsese. Mae’r ‘ffilm Facebook’ yn hollol swynol, wedi’i saethu yn wych, ei sgriptio yn ffraeth a'i bortreadu yn berffaith gan dri phrif ran, ac nid oes llawer o farnu yn bosib. Ond fe gychwynnaf gydag ychydig o farnu; yn bennaf fod y ffilm wedi’i ddramateiddio yn drwm, wedi’i selio yn llac iawn ar y gwir. O beth medraf i weithio allan, mae ffeithiau y stori yn aros yn y sgript, tra dydy Fincher a’r ysgrifennydd sgriptiau Aaron Sorkin (yn enwog am The West Wing) ddim yn gwneud cyfrinach o’r ffaith eu bod yn bwriadu gwneud eu ffilm yn ailadrodd dramatig, gan gynnwys addurno rhannau o’r stori.

Nid oes gen i broblem hyn; nid ydynt yn honni fod hwn yn ddogfen, ac mae’r dramateiddio o ddigwyddiadau wedi troi stori nad oedd gen i ddiddordeb ynddo i mewn i ffilm hollol swynol. Beth fyddwn i’n ei ddweud ydy fod y stereoteip o brifysgolion Americanaidd sydd yn llawn o bobl brydferth, heblaw am y cymeriadau ble mae eu hamhoblogrwydd yn hanfodol i’r plot felly maen nhw’n ‘geeks’, a’r parton sydd yn gyffredinol yn llawn rhyw, cyffuriau a drwm a bas gwael yn flinedig braidd erbyn hyn. Pwy a ŵyr, efallai mai fel hyn mae Harvard go iawn. Efallai fod prifysgolion Prydeinig hefyd ond fy mod i wedi methu’r parton da i gyd!

Ond dal, yng nghyd-destun y ffilm hon mae’r fath olygfeydd yn llai undonog, efallai oherwydd tra mae’n glamoreiddio bywydau’r bobl brydferth, teimlai hefyd fel bod y ffilm yn gwawdio nhw. Dydy’r cymeriadau mae’r gynulleidfa yn pryderu amdanynt ddim yn rhan o’r cylch cymdeithasu (neu rwydwaith?) yno, ond maen nhw eisiau darganfod ffordd i mewn iddo, ac fel mae’r stori yn mynd yn ei flaen gwelwn nad ydy poblogrwydd mor dda hynny. Fel mae llinell tag clyfar y ffilm yn ei ddweud, ti ddim yn cael 500 miliwn o ffrindiau heb wneud ychydig o elynion ar hyd y ffordd.

Gyda llaw, dydy’r bobl mae’r ffilm yma wedi’i selio arno ddim wedi codi mewn cynddaredd yn ei erbyn. Dim ond wedi gwneud sylw mae Mark Zuckerberg ei hun, sylfaenydd Facebook (ac yn cael ei chwarae gan Jesse Eisenburg), y byddai’n well ganddo os bydda nhw heb wneud ffilm amdano yn ei ystod ei fywyd, tra mae’r cyd-sylfaenydd Dustin Moskovitz wedi gweld y ffilm yn ddiddorol gan ei fod yn pwysleisio’r pethau doedd ddim yn bwysig ar yr adeg, ac yn portreadu eu hamser fel un o yfed a chyfarfod marched yn hytrach na’r amser ingol, llawn gwaith mae’n ei gofio.

Mae’r ffilm yn dilyn Zuckerberg, athrylith rhaglennu a myfyriwr Harvard ychydig yn ddideimlad, sydd, heb yn wybod, yn creu gwefan fwyaf poblogaidd heddiw, ynghyd ’i ffrind Eduardo Saverin (Garfield). Ar hyd y ffordd, mae crwr Napster Sean Parker, yn cael ei chwarae gan Timberlake, yn dod yn rhan o bethau ac yn bygwth gwahanu’r ddau. Dydy llinell amser y ffilm ddim yn unionlin, gyda stori’r dilyniant y wefan yn cael ei weu i mewn i’r ddau achos llys mae Zuckerberg yn ran ohonynt mae’n cael ei siwio gan fyfyrwyr Harvard oedd wedi mynd ato yn wreiddiol gyda’r syniad o wefan rhwydweithio cymdeithasol, ac Saverin. Dyna’r unig beth ddywedaf am y plot, ond mae wedi’i ysgrifennu yn wych i ganolbwyntio ar y personoliaethau a’r cyfeillgarwch ymglymedig, a sut maent yn chwalu. Mae beth rydym yn ei wybod nawr yn ychwanegu hiwmor a phwysau i weithrediadau’r cymeriadau, gan na allent byth ddeall pa mor fawr bydd eu creadigaeth un dydd.

Dyfynnwyd Kevin Spacey, cynhyrchydd gweithredol y ffilm, yn dweud byddai yn fwy doniol nag y disgwylir, ac mae’n wir. Dwi’n meddwl fod y clod am hyn yn perthyn i Sorkin, yr ysgrifennydd, gan fod ei ddeialog yn fwy siarp ac weithiau doniol nag yr ydw i wedi’i weld mewn ffilm ers peth amser. Mae’r olygfa gyntaf yn esiampl dda o hyn, wrth i Zuckerberg ddiweddu perthynas gyda’i gariad wedi sgwrs boenus sydd yn ei gyflwyno yn berffaith. Mae Jesse Eisenburg yn portreadu Zuckerberg yn wych mae’n hunan hyderus, ychydig yn lletchwith yn gymdeithasol, ond yn wawdlyd ac yn bigog pan wedi’i gythruddo. Fel mae rhywun yn ei ddisgrifio; nid yw’n a**hole, dim ond trio’n galed i fod yn un oedd o. Mae’n gymeriad sydd yn anodd teimlo drosto ar adegau, ond nid yw’n cael ei bortreadu i fod y dyn drwg yn gyfan gwbl chwaith. Yn hytrach, mae’r cymeriadau i gyd i raddau efo diffygion ac yn hunanol pobl go iawn i ddweud y gwir. Mae Eisenberg yn ymddangos fel y dyn i fynd ato am gymeriadau ‘nerdy’ sydd hefyd yn bobl go iawn, gyda diffygion ac anniogelwch (yn wahanol i Michael Cera sydd yn chwarae’r un 'nerd' ysgafn, fflyffiog comedi bob tro).

Yn wych hefyd ydy’r Spiderman newydd, Andrew Garfield. Dim ond yn y gyfres wych tair rhan sianel 4, Red Riding, ydw i wedi’i weld o’r blaen (sydd ar 4od a dwi’n argymell o yn fawr) [Nodyn Is-Olyg: Dim ond i rai 18+ pawb], ac mae wedi’i gyhoeddi yn ddiweddar mai fe fydd Peter Parker yn ailgychwyniad Spiderman Mae’n dda iawn yn The Social Network, yn portreadu cymeriad sydd ar y rhan mwyaf yn sympathetig (mae ffrind Zuckerberg, Saverin, yn cael ei adael ar l wrth i Facebook ddod yn boblogaidd), ond tuag at y diwedd mae’n dangos angerdd tanllyd hefyd. Yn cwblhau’r triawd o brif gymeriadau mae Justin Timberlake, sydd i ddweud y gwir yn ymweld fel actor eithaf da. Yn Black Snake Moan roedd yn chwarae milwr oedd yn cael pyliau o banig, yn dangos gwendid, ac yn The Social Network mae’n chwarae rhan gwbl wahanol; trahaus, swynol ac ychydig yn beryglus, mae Sean Parker yn cael ei ystyried gan Zuckerberg fel yr un wnaeth wneud Facebook yn anferth, ond gan Saverin fel peryg. Mae’r prif dri efo cemeg dda, ac yn gredadwy fel prif gymeriadau'r ddrama.

Mae’r gerddoriaeth yn The Social Network yn nodedig gan ei fod yn chwarae rl arwyddocaol yn awyrgylch y ffilm. Yn wreiddiol dywedodd Trent Reznor, a sgoriodd y ffilm, na i gynnig Fincher cyn dychwelyd i’r prosiect. Mae’n debyg fod cerddoriaeth y ffilm efo awyrgylch campws coleg nodweddiadol, trac sain roc-indi. Fe newidiodd hyn. Reznor oedd sylfaenydd y Nine Inch Nails, ac mae teimlad cerddorol nhw yn amlwg yn y ffilm y teimlad tywyll difrifol sydd yn gosod y ffilm hon ar wahn i ffilmiau American eraill wedi’i gosod mewn prifysgolion. Mor dda dwi’n cysidro lawrlwytho’r trac sain.

Digon o siarad am y ffilm. Gallaf bob tro ddweud pam mae ffilm wedi gwneud argraff arnaf gan fy mod yn ei chael yn hawdd mwydro am bethau. Mae’r ffilm yma yn bendant wedi creu argraff. Drama ddiddorol dros ben, gyda chymeriadau wedi cael eu hactio yn dda ac mae’r gynulleidfa yn poeni amdanynt, a synnwyr digrifwch da iawn. Cer i’w weld.

Newyddion >> Categorau >> Ffilmiau

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.