Fflic Fflac: Captain America
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Adolygiad Gorau yng Ngwobrau CLIC 2011.
Captain America: The First Avenger
Cynhyrchydd: Joe Johnston
Gyda: Chris Evans, Hugo Weaving, Hayley Atwell
12A, 124 munud
Captain America: The First Avenger, a'r ffilm ddiwethaf yn y pantheon Marvel cyn i The Avengers lanio haf nesaf. Mae Captain America ychydig o siom ar l safon y cynigion diweddaraf gan Marvel, ond mae'n parhau i fod yn ffilm 'action' difyrrus os ychydig yn wirion.
Rhyddhad Thor dim ond ychydig fisoedd cyn Captain America ydy'r agwedd fwyaf difrodus y ffilm olaf; mae Thor, er cael ei selio ar ddeunydd ffynhonnell llawer fwy gwirion, wedi cael ei greu i gymaint o safon fel ein bod yn dod i boeni am y gystadleuaeth frawdol y duw Asgardian a Loki. Trwy Captain America roeddwn yn teimlo fel fy mod yn cael fy adlonni, ond ddim yn poeni am y cymeriadau na'r perthnasau.
Nid bai'r actorion ydy hyn, gan fod hyn yn wych. Mae Chris Evans yn dda iawn fel Steve Rogers, yr Americanwr eiddil sydd ddim yn hoffi bwlod, ac yn gwirfoddoli i'r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd mor aml fel ei fod yn cael ei anwytho i'r rhaglen milwr siwper. Mae Evans yn ddiffuant ac yn ddymunol wrth osgoi bod yn ormod o 'goody-goody', a gall ddweud yr un peth am y ffilm yn gyffredinol. Mae Hugo Weaving, fel y Red Skull anfad, yn wasanaethgar ond ddim yn ail-ddal yr un perfformiadau a gawsom fel Agent Smith neu hyd yn oed 'V', ond mae cefnogaeth gan y fath bobl Stanley Tucci a Tommy Lee Jones yn dod a hiwmor croesawus, ac mae'r ddau yn dwyn yr olygfa yn gyffredinol.
Tra mae Weaving digon gweddus, nid yw'r cneifion yn gyffredinol yn rhan cryf o'r ffilm yma. Mae 'Hydra' yn fwy neu lai yn sefydliad di-wyneb drwg math-Bond safonol, gyda digon o 'goons' yn cyflawni cynlluniau amwys iawn Herr Schmidt. Mae'r saliwtio camp siriol, a chynlluniau Red Skull sydd wedi'u synio a'u hesbonio'n sl, yn creu gr?p diamcan o ddynion drwg. Eto mae hyn yn dioddef o gymharu Thor, ffilm ble mae'r cnaf yn ddiddorol iawn: mae Loki yn hollol hygyrch, gyda chymhelliad clir i'w deall a chynllun ysgeler ond un gallwn gyd-deimlo gydag ef.
Fel stori cychwyniad mae Captain America yn eithaf da mewn gwirionedd. Mae siwrne Steve Rogers o lipryn, i arbrawf nerthol iawn, i arf propaganda ac arwr ar y diwedd yn ddiddorol ac yn cael ei drin yn dda. Mae'r golygfeydd antur weithiau yn gyffrous (ei ymladd tarian yn uchafbwynt) ond yn aml yn rhagfynegiad, ac, er nad wyf yn selio ffilm ar ei olwg, mae'r effeithiau arbennig yn aml yn edrych yn amheus iawn i mi,
Ar y cyfan mae'r ffilm yma yn ymddangos fel cynnig sydd yn ticio bocsys, wedi'i ddylunio i gyflwyno Captain America i gynulleidfaoedd cyn iddo ddychwelyd gyda'r criw arwyr siwper flwyddyn nesaf. Mae cyflwyniad y cymeriad ei hun yn wych, ond mae'r ffilm yn ffaelu ychydig pan maen nhw'n cyflwyno cnaf anfygythiol gyda chynlluniau anfygythiol, Wedi dweud hynny, os byddai'r ffilm yma wedi cael ei ryddhau cyn Thor efallai byddwn wedi'i adolygu yn fwy positif.
A gair i gloi, paid anghofio aros tan ddiwedd y credydau am y rhagflas gorfodol yr Avengers y tro hyn rydym yn cael rhagflas cyflawnedig, os nad sydyn, ar gyfer The Avengers ei hun.
Rhestr lawn o erthyglau Fflic Fflac