Fflic Fflac: Mission: Impossible – Ghost Protocol
Mission: Impossible – Ghost Protocol
Cyfarwyddwr: Brad Bird
Gyda: Tom Cruise, Simon Pegg, Jeremy Renner
12A, 133munud
Mae pobl ddiddorol yn wastad wedi cyfarwyddo'r ffilmiau Mission: Impossible: Brian De Palma, John Woo, JJ Abrams a nawr Brad Bird. Mae Bird wedi gweithio yn llwyr yn y sector animeiddiad, wedi creu The Iron Man, The Incredibles a Ratatouille. A nawr y M:I 4 yr un mor cartwnaidd.
Mae hyn yn swnio fel sarhad, ond nid yw ef. M:I 4 ydy'r ffilm cyffro fwyaf gwirion, mwyaf difyrrus ers Fast Five, gyda llif parhaol o ddarnau gosodiadol sydd yn wirion ac yn wych. Gan gysidro fod y plot yn dilyn rhyfel niwclear agos mae'r ffilm yn wastad yn ysgafn ac yn cael ei chwarae er mwyn y chwerthiniadau, heblaw am ddarnau hedfan achlysurol.
Mae'r ffilm yn cychwyn gyda thm IMF newydd yn torri Ethan Hunt (Cruise) allan o garchar yn Rwsia mewn golygfa sydd yn cyflwyno Hunt fel yr asiant hynaws, anystyriol; Benji (Pegg) fel yr asiant technoleg sydd yn poeni am geisio'i gadw'n fyw; a Carter (Paula Patton), dy asiant benywaidd prydferth a chaled nodweddiadol. Fel golygfa mae'n greulon, cyffrous, doniol, gyda dyfeisiadau a ffrwydradau – yn debyg iawn i'r ffilm ar y cyfan.
Ar l i'r tm ymdreiddio'r Kremlin er mwyn ceisio dod o hyd i'r terfysgwr niwclear 'Cobalt' (a chael eu twyllo), mae Arlywydd America yn cychwyn Protocol Rhith ac yn gwadu'r IMF cyfan, gan adael Hunt a'i dm heb unrhyw gymorth wrth iddynt geisio rhwystro rhyfel niwclear. Mae'r plot yn eithaf gwirion ond nid yw o bwys; gan fod pwrpas iddo, sef galluogi llif o olygfeydd cyffrous mewn nifer leoliad hudol (ar y cyfan ffilm James Bond).
Er mai masnachfraint Tom Cruise ydy hwn, ac mae'n cyflwyno ei olynydd hirdymor Jeremy Renner, seren M:I 4 ydy Simon Pegg. Mae ym mhob golygfa bron iawn ac yn dod ac elfen comedi croesawus iawn i'r ffilm, yn ysgafnhau'r holl beth ac yn atal ef rhag bod yn ddiflas: os byddai'n ddifrifol yna byddai'r gwiriondeb yn flinedig, ond diolch i'r hiwmor ti'n cael gormod o hwyl i boeni.
Mae gweddill y tm IMF yn cael eu chwarae yn ddigon da – mae Cruise, er efallai nad yw'r unigolyn mwyaf hoffus ar y blaned, yn chwarae Hunt yn eithaf dymunol. Gallwn wylio Jeremy Renner yn unrhyw beth, ac, er nad yw'n cyrraedd y fath ansawdd 'i berfformiad yn The Town, mae dal yn dda. Nid yw Michael Nyqvist, adnabuwyd orau fel Mikael, y newyddiadurwr yn y triawd Mileniwm Swedeg, yn cael ei ddefnyddio digon fel dyn drwg y ffilm – nid yw'n cael gwneud y darn nodweddiadol o 'fonolog cas' hyd yn oed. Mae hyn yn siom gan fy mod i'n sicr y gallai ddarparu'r bygythiol yn dda.
Uchafbwynt y ffilm ydy'r cyffro yn bendant. Mae yna olygfeydd da iawn, llawn dychymyg, sydd yn cydbwyso hiwmor, trais, pryder a chyffro. Mae'r dyfeisiadau yn y ffilm yn cludo fi'n l at fod yn ifanc ac yn gwylio'r ffilmiau Bond, yn rhyfeddu ar y dychymyg sydd yn rhan o ddyfeisio pethau sydd yn amlwg ddim yn gallu bodoli ta galla nhw? Mae'r golygfeydd yn Dubai, gyda'r adeilad Burj Khalifa (yr un uchaf yn y byd) yn peri pendro ac yn achosi tensiwn go iawn, yn enwedig pan fydd Cruise (nid ei gymeriad yn unig, ond yr actor ei hun) yn chwarae o gwmpas ar du allan yr adeilad.
Mission: Impossible 4 ydy'r hwyl fwyaf dwi wedi'i gael yn y sinema am dipyn. Byddet ti'n cael gormod o hwyl i boeni pa mor wirion ydy'r holl beth, ac am y ffaith fod pethau yn digwydd sydd, os wyt ti'n meddwl am y peth, yn gwbl ddibwynt. Mae'r ysgrifennu yn glyfar iawn ar adegau, ond yn fwy aml yn ymddangos fel ei fod yn tynnu dy sylw di i ffwrdd oddi wrth y tyllau yn y plot gan daflu pwyntiau bach craff arnat ti.
Ond, ar y cyfan, mae'n hwyl. Mae'n bopeth ti eisiau ohono, ac oeddet ti'n hoffi golwg yr hysbyslun, ni fyddet yn cael dy siomi.
Newyddion – Ffilmiau
Poeni am fethu Fflic Fflac? Cadwa lygad ar adran Cyfres TheSprout ar Dudalen Ffan Facebook newydd theSprout.