Fflic Fflac: Monsters
Cyfarwyddwr: Gareth Edwards
Serennu: Scoot McNairy, Whitney Able
Mae’n anodd siarad am y ffilm hon heb sn yn barhaol am y ffaith anhygoel fod Gareth Edwards wedi ei greu, bron ar ben ei hun ac ar gyllid bach iawn. Iawn, mae ffilmiau annibynnol yn aml yn cael eu gwneud ar bron dim o arian i gymharu ffilm gyffredin, ond dwi erioed wedi gweld ffilm sydd yn edrych fel hyn am y fath o arian oedd yn ymglymedig.
Mae IMDB yn amcangyfrif cyllid Monsters yn $200,000. Er mwyn cymharu, honnir fod Avatar wedi costio $310,000,000. Y peth gwych am Monsters ydy na fyddi di byth yn dyfalu pa mor rhad oedd ei wneud drwy wylio. Ond dwi ddim eisiau barnu’r ffilm mewn termau ‘bechod, 'wnaeth o’n dda do?’ Yn wirioneddol mae’n un o’r ffilmiau gorau dwi wedi’i weld eleni, ac yn chwyldrwr o’r genre ffuglen wyddonol/anghenfil.
Er hynny, mae Monsters yn fwyaf nodedig am y ffordd mae’n edrych. Cafodd ei ffilmio ar leoliad i gyd pan roedd Gareth Edwards yn Fecsico gyda chamera ei hun (a heb y caniatd wedi’i gael o flaen llaw), ac mae’r lleoliadau syfrdanol sydd yn cael eu defnyddio i gyd yn rai go iawn. Dwi wedi colli cyfrif o faint o olygfeydd achosodd i’r gwallt bach ar gefn fy ngwddw sefyll i fyny; mae yna saethiadau prydferth iawn.
Yn drawiadol hefyd ydy’r golygfeydd o ddinistr, rhai oedd yn rai go iawn (er enghraifft ffilmiodd Edwards mewn ardaloedd o America wedi’u taro gan gorwyntoedd) ac roedd rhai wedi cael eu golygu yn ddigidol. Mae ansawdd ei waith o gymaint o safon fel nad oes posib dweud pa rai sydd wedi cael eu newid (er yn amlwg gyda rhai gall dyfalu.)
Fel arfer, mae ffilm fel hyn yn dibynnu ar beidio dangos yr angenfilod, ond yn hytrach i greu tensiwn drwy guddio nhw. Mae Monsters yn anwybyddu’r rheolau arferol, ac mae Edwards yn falch o ddangos ei greadigaethau. Maen nhw’n estronwyr tybiedig sydd wedi cwympo i’r Ddaear ar fewnchwilydd NASA ac wedi, dros gyfnod o chwe blynedd, sefydlu eu hunain mewn ‘parth heintiedig’ wedi’i gordio i ffwrdd, ac mae’n rhaid i brif gymeriadau’r ffilm fentro drwy’r ardal i gyrraedd adref.
Mae’r estronwyr yn gredadwy, yn edrych fel rhywbeth gallai fyw yn foroedd dwfn y Ddaear, ac yn ymddwyn fel anifeiliaid gwyllt yn hytrach na’r rhai ffiaidd drwg yn y ‘B-movies’, fel bod y gynulleidfa hyd yn oed yn dangos empathi tuag atynt. Yn fuan yn y ffilm, mae saethiadau ohonynt yn cael eu defnyddio i egluro’r ffaith fod pobl ddim yn cael eu brawychu ganddynt bellach ond eu bod yn niwsans.
Mewn cyfweliadau mae Edwards wedi cymharu’r sefyllfa i’r un o ymateb y cyhoedd i ddigwyddiadau yn Afghanistan roedd Iraq (y meddiant) yn frawychus a’r trais yn ofnadwy, ond erbyn hyn rydym i gyd wedi’u di-sensiteiddio a hyd yn oed wedi diflasu efo adroddiadau’r gwrthdaro sy’n parhau.
Er y teitl, mae Monsters yn stori rhamant yn bennaf. Mae’r cwpl mewn bywyd go iawn, Scoot McNairy a Whitney Able, yn wych fel y pr sydd yn cael eu gorfodi at ei gilydd, ac mae eu stori yn un o ddau o bobl sydd yn dod i hoffi ei gilydd drwy rannu peryglon a thrallod. Byth yn rhy sentimental, ac yn wastad yn realistig (mae’n debyg am fod y deialog wedi’i addasu’n fyrfyfyr, y sgript yn dweud beth oedd yn digwydd ymhob golygfa yn unig), roeddwn i’n credu yn y cymeriadau fel pobl go iawn oedd yn disgyn mewn cariad, sydd yn cario’r ffilm dwi’n meddwl.
Mae Monsters yn cychwyn yn araf, gyda chyfrwys anhygoel i’r stori mae unrhyw un sydd yn disgwyl ffilm nodweddiadol anghenfil am gael ei ddiflasu / synnu am y gorau gyda’r diffyg ffrwydron a phlot wedi’i fwydo llwy. Mae’n groesiad o’r emosiwn cyfrwys ond pwerus o Lost In Translation, y rhyfeddod a’r anesmwythder o Jurassic Park, a llymder 28 Days Later.
Mae’n haeddu cael ei weld, a fedra i ddim disgwyl gweld beth mae Gareth Edwards yn ei wneud nesaf.