Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Ffilm Calan Gaeaf Gorau?

Posted by National Editor from National - Published on 30/10/2014 at 11:45
0 comments » - Tagged as Culture

  • Bachgen mewn mwgwd ofnud yn edrych drwy'r ffenest

English version // Yn Saesneg

Mae wedi bod yn llawer rhy hir ers i ni gael erthygl CLIC Cymru gyfan gyda digonedd o sylwadau, felly pa ffordd well o wneud hynny nag gofyn y cwestiwn yma:

Beth ydy dy ffilm Calan Gaeaf gorau a pam?

Dim ond un ti'n cael dewis, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynnwys rhaglun a chlipiau o'r ffilm, dim ond os nad ydynt yn rhy erchyll i'n defnyddwyr iau, neu'n cynnwys rhegi ayb.

Fe gychwynnaf i, a nos yfory yn ein tÅ· ni, byddem yn gwylio El Orfanato (Y Cartref Plant Amddifaid) (15, 105 munud), y ffilm gyntaf gan JA Bayona 2007. Mae'n ffilm Sbaeneg iasol, atmosfferig am fachgen bach blinderus sydd yn mynd ar goll o'i gartref newydd; hen gartref plant amddifaid sydd yn llawn ysbrydion y plant oedd yn byw yno cynt.

Nid oes gôr (wel, ychydig bach) na braw rhad. Yn lle hynny mae'n ffilm arswyd traddodiadol sydd yn cadw ti yn tybio beth sydd wedi digwydd i'r bachgen. Roedd dagrau yn fy llygaid erbyn y diwedd sydd hefyd yn anghyffredin am ffilm arswyd.

Iawn, gad sylwad isod a gad i ni gael dy awgrymiadau ffilmiau Calan Gaeaf plîs)

Gwybodaeth - Sinema

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.