Falch O Fod Yn Gymro?
English version
Mis diwethaf treuliom ychydig o amser gyda disgyblion Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Llanrhymni.
Gofynnwyd iddynt eu barn am fod yn Gymraeg, a'u lleoliad yn gyffredinol.
Dyma oedd gan rhai ohonynt i ddweud
"Dwi'n hoffi bod yn Gymraeg am rhai rhesymau, gan mai dyma le gefais fy ngeni. Ond, mae yna lawer o bethau dwi ddim yn hoffi amdano! Mae'r tywydd yn newid trwy'r adeg; nid ydym byth yn cael haf na gaeaf iawn.
"Dwi'n casu pobl sydd yn barnu ni gyda defaid, dim ond am fod llawer ohonynt yma, ac yna rydym yn mynd i wlad neu le arall, efallai bod pobl yn dweud pethau dim ond am fod ni o Gymru. Maent yn barnu ni oherwydd o le rydym ni'n dod, nid pwy ydym ni." – Georgina Greenway.
"Dwi'n falch o fod yn Gymraeg am fod i wedi cael fy ngeni yma a dwi'n cynrychioli fy niwylliant. Dwi ddim yn siarad Cymraeg am fod o'n rhy anodd i ddysgu, ac er nad wyf yn hoffi'r tywydd, mae'n c?l. Cymraeg a balch!" – Maina Kuwale.
"Dwi'n hoffi byw yng Nghymru am mai dyma ydy fy nghartref i. Dwi ddim yn hoffi Llanrhymni am ei fod o'n eithaf anwaraidd yma ac yn gallu bod yn ddiflas, ac nid oes llawer o gwmpas i ni. Mae yna rai gweithgareddau ar gael, fel yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain lle gallwn ddefnyddio'r gampfa neu nofio" – Lisha.
"Dwi wrth fy modd byw yn Llanrhymni yng Nghymru am fod fy ysgol yma, ac mae fy nheulu a'm ffrindiau i gyd yn byw yma" – Stephanie Thomas & Leah.
"Dwi'n hoffi byw yn Pentre Llaneirwg. Mae'n le braf a distaw ac nid oes llawer o gangiau o gwmpas. Dwi'n hoffi byw yno am fod gen i ffrindiau dwi weithiau yn chwarae pl droed gyda nhw.
"Nid oes llawer o gwmpas yna, ond mae'n hawdd dal bws i'r dref neu i lefydd eraill. Mae'r bobl yno yn edrych allan am ei gilydd, a bydda nhw'n helpu os wyt ti angen. Felly, mae byw yn Pentre Llaneirwg yn dda" – Nicholas Howell.
"Dwi'n caru byw yn Llanrhymni gan ac wedi byw yno ers i mi gael fy ngeni, a dwi wedi tyfu fyny yma. Dwi hefyd efo ffrindiau gwych dwi'n mynd allan efo nhw am hwyl a chwerthin" – Dale Gunning.
"Llanrhymni yng Nghymru ydy lle dwi'n byw. I fod yn onest, mae'n dwll llwyr, a dyna'r unig ffordd gallaf roi o.
"Mae gen ti iobiaid yn rhedeg o gwmpas o 10yb tan tua 1yb yn torri ffenestri, ac yn cam-drin y gymuned yn gyffredinol. Ble dwi'n gweithio – mewn siop yn Llanrhymni - mae'r perchennog wedi cael digon o'r trafferthion mae'r iobiaid yma'n achosi, ac mae'r heddlu wedi bod yno sawl gwaith.
"Er dweud wrtho na fyddai'r heddlu yn gwneud llawer, nid yw'n gwrando. Dwi wedi dweud wrtho mai'r unig ffordd o stopio'r iobiaid yma rhag achosi trafferthion tu allan i'r siop ydy un ai siarad gyda'u rhieni nhw yn gwrtais neu drwy gymryd materion i mewn i ddwylo ei hun a churo nhw. Dyna fyddwn i yn gwneud.
"Ond dydy Llanrhymni ddim mor ddrwg ag mae pawb yn meddwl. Mae yna rai pobl neis iawn yn byw yma. Mae'r lle dwi'n byw yn le neis, distaw ger Burnham Avenue" – Chris.
DELWEDD: Mooganic