Entrepreneur O Gasnewydd A’i Siop Cerddoriaeth DIY
English version
Mae’n glodwiw pan mae rhywun yn adnabod bwlch yn y farchnad ac efo’r blaen i ddatblygu busnes, hyd yn oed fwy pan mae’r person yna yn fentrwr 21 oed sy’n caru cerddoriaeth yn wynebu’r sialens o agor ei siop cerddoriaeth ei hun!
Mae Jacob Powell, sy’n ymddangos fel cymeriad enwog yn y sn cerddoriaeth tan ddaearol, wedi agor ‘Newport Chartists’ y mis hwn i gynorthwyo bandiau annibynnol i ddangos eu talentau a chynyddu eu hamlygiad.
Roedd y siop yn yr Arcd Marchnad yn wag cynt, a nawr mae wedi’i lenwi gyda chreadigaeth tua 50 o fandiau o De Cymru a Gwent, gyda detholiad o’u cerddoriaeth yn cael ei chwarae bob dydd o 10yb.
Wedi gweld y potensial i fynd a gwefannau rhwydweithiol hunan hyrwyddiad fel Myspace un cam ymhellach, mae Jacob yn cynnig y cyfle i newydd-ddyfodiaid hyrwyddo eu cerddoriaeth DIY, stocio eu CD’s, nwyddau a dillad band, ticedi i gigs/digwyddiadau a hyd yn oed offerynnau wedi’i defnyddio.
Dywedodd Jacob “Nid oes rheswm i gerddoriaeth leol a ddim wedi’i arwyddo fod yr un mor boblogaidd ’r sbwriel sydd yn y siartiau, dim ond mater o hygyrchedd ydyw. Gyda’r siop, rydym yn bwriadu newid hynny!”
Mae aelodau o The Calling Card, sydd yn chwarae mewn llefydd fel LePub a Six Feet Under yng Nghasnewydd, wedi cefnogi’r prosiect hwn, ynghyd bandiau Cymraeg The Decoy a Hundred Cannons. Mae Jacob yn gweithio’n uniongyrchol hefyd gydag aelodau o’r sefydliad ieuenctid Urban Circle ac artistiaid hip-hop lleol.
Yn cysylltu gyda Brwydr y Bandiau CLIC, bydd Newport Chartists yn cael ei gynnwys mewn hyrwyddiad am y rownd derfynol yn y digwyddiad Sgiliau Cymru am ddim yn Stadiwm y Mileniwm ar ddydd Sadwrn 18 Medi, lle bydd y band buddugol yn perfformio yn fyw ar y cae! Bydd eu CD’s cerddorol wedyn ar gael yn y siop.
Dydd Sadwrn 21 Awst fydd y gig cyntaf am ddim ‘yn y siop’ gyda John C, canwr blues yn perfformio a Recovery Ring, deuawd rhannol acwstig yn hyrwyddo eu albwm Following Fault Lines. Bydd perfformiadau byw yn cychwyn o tua 2.30yp ymlaen.