Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Ennill Tocynau Night Garden!

Posted by National Editor from National - Published on 14/06/2011 at 11:50
0 comments » - Tagged as Stage

  • nIght garden

English version

Cyfle i holl ffans In The Night Garden!

I ddathlu taith 2011 In The Night Garden yn Fyw, mae CLIC a chynhyrchwyr y sioe yn cynnig tocyn teulu (pedwar o bobl, o leiaf un oedolyn) i un enillydd lwcus i weld y sioe ym Mharc Bute, Caerdydd ar ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf am 9:30yb.

Bydd y cymeriadau teledu plant poblogaidd Igglepiggle, Upsy Daisy, Makka Pakka a'u ffrindiau yn gwneud dychweliad  yr haf hwn yn y daith hudol ar draws y genedl o'r cynhyrchiad theatr In The Night Garden Live.

Un o'r cynyrchiadau werthodd orau llynedd ym Mhrydain, gyda dangosiadau estynedig a pherfformiadau wedi'u gwerthu allan, mae'r sioe yma yn mynd ar daith unwaith eto yn ei 'showdome' wedi'i adeiladu yn arbennig. Mae'r adeilad pob tywydd,  chwythu fyny yma yn ymgartrefu dros ro ym Mharc Bute, Caerdydd o ddydd Sadwrn 9 – dydd Sadwrn 23 Gorffennaf.

Gydag adolygiadau gwych gan ffans ifanc a'u rhieni a gofalwyr, mae In The Night Garden Live yn brofiad theatr anhygoel ac yn gyfle gwych i weld yr eiconig In The Night Garden a'i gymeriadau cariadus mewn digwyddiad byw.

Mae'r cymeriadau yn dod yn fyw gyda gwisgoedd maint llawn, cerddoriaeth swynol, pypedau hudol a thafluniadau panoramig anhygoel, yn creu profiad theatr gynhwysol i wneud i'r gynulleidfa deimlo fel eu bod yn mynd i mewn i fyd hudol In The Night Garden.

Eisiau ennill tocyn? Yna ateba'r cwestiwn dilynol:

C: Pa liw ydy blanced Igglepiggle?

E-bostia dy ateb i ryan@cliconline.co.uk erbyn dydd Mercher 6 Gorffennaf. Pob lwc!

Am wybodaeth bellach o'r daith cer i www.nightgardenlive.com neu galwa 0844 581 1251.

Mae In The Night Garden Live yn cael ei gynhyrchu gan BBC Worldwide, Ragdoll a Minor Entertainment.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.