Ennill Tocynnau Love2shop!
Rydym i gyd, ar ryw bwynt, efo rhywbeth i ddweud am y ffordd mae pethau yn cael eu rhedeg yn ein hysgolion.
Os fydda ti wedi cael y cyfle i wneud rhywbeth amdano, yna fyddet ti?
Wyt ti’n cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn dy ysgol?
Ydy pawb yn cael y cyfle i ddweud eu dweud?
Hoffai Llais Disgyblion Cymru ddarganfod sut gall wella pethau i wneud yn sicr fod pawb yn cael y cyfle i eraill glywed eu llais. Mae’r holiadur hwn yn rhan o brosiect yn datblygu cyfarwyddyd i ysgolion ar sut i annog ymglymiad pob disgybl mewn penderfyniadau allweddol ac i dderbyn eu sylwadau.
Os gallet sbario pum munud i gwblhau’r holiadur, bydd cyfle hefyd i ti ennill tocyn pumdeg punt Love2shop.
Mae tocynnau Love2shop yn cael eu derbyn mewn 20,000 o siopau mawr Prydain, yn rhoi’r dewis i’r enillydd lwcus o filoedd o lefydd gwych i siopa, ymweld, bwyta
Mae’r cwestiynau yn rai syml a hawdd eu hateb, felly beth sydd i’w golli (heblaw am y posibilrwydd o fod yn gyfoethocach o bumdeg punt o docynnau’r stryd fawr)?