Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Ennill Tocyn Question Of Sport

Posted by National Editor from National - Published on 27/09/2011 at 12:11
0 comments » - Tagged as Stage, Sport & Leisure

English version

Cyhoeddwyd mai'r panel gwadd yng Nghaerdydd

Arwyr y byd chwaraeon Colin Jackson, Andrew Castle a Robert Earnshaw sydd wedi cael eu cyhoeddi fel y panel gwadd yng Nghaerdydd, yn ymuno gyda'r cyflwynydd Sue Barker a'r capteiniaid Matt Dawson a Phil Tufnell wrth i Question Of Sport y BBC daro'r ffordd ar ei ail daith byw.

Bydd y cyflwynydd Sue Barker yn cadw trefn ar bob sioe ar hyd y daith ynghyd 'r capteiniaid tm Matt Dawson a Phil Tufnell, fydd yn cael eu hymuno gan y panelwyr anhygoel.

Un o'r arwyr yma ydy'r cyn athletwr Olympaidd sbrintio a ras glwydi ganwyd yng Nghaerdydd, Colin Jackson. Roedd Colin yn arbenigo yn y ras glwydi 110 medr yn cynrychioli Prydain Fawr a Chymru, enillodd fedal Olympaidd arian, daeth yn bencampwr y byd tair waith, ni chollodd yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd am 12 mlynedd ac roedd yn bencampwr Cymanwlad dwywaith.

Hefyd yn cystadlu mae'r cyn pencampwr tennis rhif un Prydeinig, Andrew Castle. Cychwynnodd gyrfa Andrew yn 1986 fel chwaraewr tennis proffesiynol, yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd Seoul yn 1988 ac yn Barcelona yn 1992. Bu Andrew hefyd yn cymryd rhan yn y cystadlaethau Cwpan Davis ac Ewropeaidd.

Yn cwblhau'r gwesteion yng Nghaerdydd mae saethwr Dinas Caerdydd a rhyngwladol Cymru Robert Earnshaw. Fe ydy'r unig chwaraewr i sgorio trithro yn Uwch Gynghrair Lloegr, Pencampwriaeth, Cynghrair Un, Cynghrair Dau (neu'r rhanbarth dan yr enw cynt), y Cwpan Cynghrair, Cwpan yr FA ac ar ran ei wlad ar lefel Rhyngwladol.

Mae'r sioe byw llwyfan arbennig hwn, yn drwyddedig gan BBC Worldwide ac yn cael ei gynhyrchu gan Live Nation a Merlin Music & Live, yn caniatu i gefnogwyr weld eu rowndiau gorau mewn awyrgylch byw cyffrous o'r 'Bwrdd Lluniau' i'r "Gwr Gwadd Ddirgel' i 'Beth Ddigwyddodd Nesaf'.

Mae'r sioe yn dod i Arena Motorpoint Caerdydd ar ddydd Sadwrn 12 Tachwedd 2011 ac mae pr o docynnau ar gael i chi ennill.

Er mwyn ennill, dweud wrthym beth ydy'r peth mwyaf doniol ti wedi'i weld mewn chwaraeon yn yr adran sylwadau isod. Gall fod yn rhywbeth ti wedi'i weld ar yn fyw, ar y teledu, rhywbeth ddigwyddodd yn ddiwrnod chwaraeon yr ysgol neu rywbeth sydd wedi digwydd i ti.

Bydd y sylwad gorau yn cael ei ddewis ar ddydd Mercher 9 Tachwedd.

Question Of Sport Yn Fyw
Arena Motorpoint Caerdydd
Sadwrn 12 Tachwedd 2011
Tocynnau £37.50 + ffi bwcio
Galwa'r swyddfa docynnau: 029 20 22 44 88

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.