Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd
English version
Dydd Sul bydd Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd 2011 yn cychwyn, un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop.
Mae'r Eisteddfod, sydd yn cael ei gynnal gan Sir Abertawe eleni, yn ddathliad o'r iaith a diwylliant Cymraeg yn ogystal chyfle i ddangos talent ifanc Cymru.
Gyda chystadlaethau, llwyfannau cerddoriaeth byw, theatr ar y stryd, stondinau ac arddangosfeydd mae'n ddiwrnod allan gwych i bob oedran.
Bydd CLIC yno drwy'r wythnos hefyd – felly dewch i chwilio amdanom ni, dweud helo a chael ychydig o bethau am ddim!
O'r ffair i'r arddangosfa celf, dylunio a thechnoleg o'r wal ddringo i gaffi'r we ac o'r amryw stondinau yn gwerthu crefftau i Gymru i'r sioeau nos anhygoel – mae rhywbeth ar gael at ddant pawb.
Gwybodaeth bellach am atyniadau'r cae a'u lleoliad ar gael yn y daflen wybodaeth ym mhrif fynediad yr Eisteddfod, a hefyd ar y sgriniau plasma wedi'u lleoli o gwmpas y maes, ond dyma flas o beth gallet ddisgwyl:
- Hyd at 200 o stondinau yn hyrwyddo gwasanaethau a chynnyrch Cymru
- Pentre’ Mistar Urdd, yn arddangos rhai o weithgareddau fwyaf poblogaidd yr Urdd gan gynnwys wal ddringo, trampoln ac ardal chwaraeon
- Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg
- Mae'r 'Cwtsh Cymraeg' yn cynnig gweithdai, sesiynau blasu ac adnoddau i ddysgwyr Cymraeg
- Gweithdai thema llenyddiaeth ac arddangosfa o waith llenyddol yn y Cwtsh Cymraeg
- Amryw weithdai ar draws y Maes gan gynnwys drymio a giliau syrcas
- Perfformiadau drama, dawns a cherddoriaeth ar y llwyfan awyr agored
- Gr?p Podledu'r Urdd yn darlledu'n ddyddiol o'r Garafan Podledu
- Ffair hwyl
- Trn tir
- Caffi'r We
- Dewis helaeth o fwyd a diodydd at ddant pawb
- Cymorth cyntaf, cadeiriau olwyn, peiriannau arian parod ac offer cyfieithu
Bydd bws Gwennol yn cludo pobl o Ysbyty Treforys i faes yr ?yl yn ddyddiol rhwng 9am – 6pm. Rhif y bws sydd yn teithio o'r ysbyty ydy'r rhif 4 Metro, sydd yn cychwyn yn Singleton, trwy ganol y ddinas, heibio'r Stadiwm, ac i fyny i Dreforys.
Mae'r holl wybodaeth sydd angen ar y wefan, gan gynnwys llety, stiwardio, digwyddiadau, cael yno, cystadlu a llawer mwy.
Cer i wefan Eisteddfod Yr Urdd 2011 am wybodaeth bellach.
(FFYNHONNELL: Gwefan Eisteddfod Yr Urdd)