Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Eisiau iPad? Darllena hwn!

Posted by National Editor from National - Published on 24/09/2010 at 09:42
0 comments » - Tagged as Creative Writing, Culture, Technology

  • journ

English version

Eisiau ennill anrheg Nadolig buan fel iPad sgleiniog newydd?

Wel, efallai dy fod wedi clywed am gystadleuaeth mae CLIC yn ei redeg gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, o’r enw Geir-IAU.

I roi cyfle i ennill i gymaint o bobl ifanc dros Gymru phosib, rydym wedi ymestyn y dyddiad cau i ddydd Gwener 15 Hydref 2010.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei gynnal i ddau grŵp oedran, 7 i 10 a 11 i 25.

Beth sydd raid i mi wneud?

Un o amcanion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ydy i wneud yn siŵr fod papurau newydd, teledu a radio yn dangos y pethau da mae plant a phobl ifanc yn ei wneud, ac yn cynrychioli chi’n deg.

Mae Geir-IAU yn gystadleuaeth i unigolion a grwpiau sydd yn galluogi ti i ddod yn newyddiadurwr ac adrodd ar y pethau i wneud gyda phlant a phobl ifanc yn dy ysgol neu ardal.

Gall unigolion a grwpiau yrru:

  • Datganiad i’r wasg am ddigwyddiad neu weithgaredd yn dy ardal
  • Adroddiad newyddion gyda phennawd ar weithgareddau lleol fel y byddai yn ymddangos mewn papur newydd
  • Erthygl nodwedd hyd at 400 gair
  • Llun newyddion gyda phennawd
  • Cartŵn
  • Adroddiad chwaraeon
  • Adolygiad cerddoriaeth neu gelfyddydau
  • Llythyr i’r golygydd yn codi mater am blant a phobl ifanc
  • Cyfweliad neu adroddiad clywedol neu fideo ar gyfer y we

Byddwn yn rhoi’r rhai gorau mewn papur newydd Geir-IAU arbennig ar ein gwefan.

Yn ogystal ’r cyfle i ennill iPad, mae cyfle hefyd i gael gafael ar becynnau cyfryngau Geir-IAU sydd yn cynnwys camera fideo fflip, recordydd a meicroffon newyddiadurwr radio, nodlyfr gohebydd a chanllaw hawdd i adrodd y newyddion.

Barod i ohebu?

Cystadleuaeth Geir-IAU i rai 7-10 oed
Rheolau cystadleuaeth Geir-IAU i rai 7 i 10 oed

Cystadleuaeth Geir-IAU i rai 11-25 oed
Rheolau cystadleuaeth Geir-IAU i rai 11-25 oed

LINCIAU

CCUHP Gwneud Pethau’n Iawn!

Canllawiau Arddull CLIC (Awgrymiadau Gohebu)

Yn Chwilio Am Newyddiadurwyr Ifanc 

Delwedd: Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, yn lansiad y cystadleuaeth Geir-IAU.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.