Eisiau: Dy Sylwadau!
Yn wahanol i beth fyddet yn ei feddwl, dydy pawb sydd yn ymweld ’r teulu o wefannau CLIC yn gwybod fod posib gadael sylwadau.
Mae nifer ohonoch yn codi ysgwyddau ac yn meddwl, “Roeddwn i’n gwybod hynna, dwi’n gadael sylwadau drwy’r adeg>”
Ond mae nifer mwy ohonoch yn gwyro ymlaen, dwylo gyda'i gilydd, ac yn cwio, ‘wir? Doedd gen i ddim syniad. Sut dwi’n gwneud hynna ta?”
Wel, yn hawdd iawn, fel mae’n digwydd.
O dan bob erthygl, gan gynnwys hwn, mae yna focs sydd yn gofyn: ‘Rhywbeth i ddweud?’
Yn y bocs hwn gall ysgrifennu ymateb i’r erthygl. Gall fod yn un gair neu’n dipyn o baragraffau, ond yn bwysig, dy farn di a dy feddyliau di fydd hwn.
Bydd rhaid bod wedi mewngofnodi (ac felly wedi cofrestru) ond unwaith ti wedi gall gadael cymaint o sylwadau ag yr hoffet.
Felly pls cer yn wyllt gyda dy sylwadau. Mae nhw’n ffordd perffaith o fynegi dy hun, yn enwedig os does gen ti ddim amynedd i lwytho erthygl lawn!
Os nad wyt ti wedi gwneud eto, gall gofrestru yma.
Erthyglau diweddar gall wneud sylwad arnynt:
Chwarae Gemau Fideo Dylanwad Drwg?
DELWEDDAU: Juliana Coutinho / Duncan C