Eich Ffilmiau Yn Erbyn Bwlio
Lansiodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis gystadleuaeth ffilm gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru eleni yn ystod ymweliad i Ysgol Plasmawr, Caerdydd wythnos diwethaf.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei rhannu i ddau gategori - un i ysgolion cynradd ac un i ysgolion uwchradd. Mae disgyblion yn cael eu gwahodd i gynhyrchu bwrdd stori neu glipiau ffilm, sydd yn dangos achos ac effaith bwlio.
Bydd ymgyrch eleni yn annog cyfranogwyr i ganolbwyntio'u ffilm ar nodweddion fel anabledd, hil, crefydd neu dueddfryd rhywiol.
Bydd yr enillwyr yn derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru a bydd cwmni cynhyrchu fideo proffesiynol yn eu helpu i ddatblygu'r ffilm a'u syniadau.
Llynedd enillwyr y gystadleuaeth oedd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Maes Owen yn Rhyl a disgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, Ynys Môn (gweler fideo).
Mae gwybodaeth bellach am y gystadleuaeth gwrth-fwlio ar gael ar y dudalen Facebook 'Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref' a gellir lawrlwytho'r arweiniad cystadleuaeth yma.
Dyddiad cau holl ymgeision - 28 Tachwedd 2014.
Os wyt ti wedi cael dy effeithio gan fwlio gallet ti siarad gyda Meic unrhyw amser.
DELWEDD: ElDave trwy Compfight cc