Eglurhad: AV (Gyda Chathod)
Os wyt ti’n debyg i mi o gwbl, ti wedi derbyn llawer o bropaganda trwy’r blwch post yn ddiweddar yn dweud wrthyt pam ddylai ti (neu dylai ti ddim) cefnogi’r Bleidlais Amgen (AV) ar Fai’r 5ed. Ac, os wyt ti’n debyg i fi o gwbl, yn hytrach nag meddwl “Ia i AV” neu “Na i AV” ti’n pendroni beth yn union ydy AV.
Mae’n sefyll am ‘Alternative Vote’, sef Pleidlais Amgen, ac os wyt ti’n pleidleisio Ia ar Fai’r 5ed ti’n pleidleisio am newid yn y ffordd mae pleidleisio yn digwydd ym Mhrydain. Y broblem gyda’r holl daflenni sydd wedi’u gwthio drwy fy nrws ydy eu bod wedi cael eu hysgrifennu gan bleidiau gydag agenda yn glir. Maen nhw i gyd yn eithaf amwys yn esbonio beth ydy AV, ac yn hytrach yn un ai dweud “AV ydy’r peth gorau yn y byd a bydd yn achosi i gathod bach a marshmallows fwrw o’r awyr” neu “Mae AV yn ddrwg ac os wyt ti yn pleidleisio amdano bydd Nick Clegg yn bwyta eich babanod.”
Dwi’n meddwl fod y ddwy ddadl yma yn eithaf rhagfarnllyd. Felly, fel gwasanaeth cyhoeddus, dwi wedi chwilota’r we am esboniad syml, gonest a hawdd i’w ddilyn.
Bonheddwyr a boneddigion, dwi’n cyflwyno i chi: Eglurhad Newid EtholiadolGan Gathod! *cyfeirio at y fideo yn y gornel*
Dwi, fel un, yn meddwl fod cathod yn egluro AV llawer gwell nag unrhyw un o’r taflenni dwi wedi’i ddarllen. Dwi’n gobeithio drwy bostio hwn bydd yn esbonio pethau ychydig gwell i eraill hefyd.
Oes gen ti ddadl groes? I mi mae hyn yn ymddangos fel peth da iawn, ond os wyt ti yn bwriadu pleidleisio Na i AV dydd Iau hoffwn i ti rannu dy farn drwy adael sylwad isod.
Dolennau perthnasol:
Pam Dwi’n Casu Gwleidyddiaeth
Pleidleisio I’r Rhai Di-glem