Dydd San Ffolant: Nefoedd / Uffern
English version
NB: Mae'r erthygl hon yn cael ei rannu dros yr holl wefannau CLIC i roi cyfle i chi bobl hyfryd gael cymysgu yn syber gyda CLICwyr eraill dros Gymru. Rydym yn gwneud hyn weithiau. Efallai dylai cael term amdano. Os wyt ti'n meddwl am un, gad i ni wybod, a byddwn yn rhoi DVD neu rywbeth am yr un rydym yn ei ddewis.
Cyn i ti gael cyfle i gondemnio’r Nadolig fel ymarferiad llosgi arian, wedi'i freuddwydio gan adrannau marchnata mawrion manwerthu, ti'n cael dy sugno yn syth yn l i mewn gan y dyddiad yna ar y calendr gyda'r galon mawr goch wedi'i ddwdlan arno: Dydd San Ffolant.
Ond beth mae Dydd San Ffolant yn ei feddwl i ti? Rhywbeth? Dim Byd?
Os oes gen ti rywun arbennig, yna wyt ti'n bod yn hael gan brynu siocled moethus a blodau drud ar y person hwnnw, neu wyt ti'n gafael mewn tusw o gennin pedr £1.99 o Lidl a bocs rhad o Lindt?
Ydy'r rhai sengl ymysg chi yn dechrau cael eich pennau stelcio ymlaen ac yn gyrru anrhegion dienw i'r rhai rydych yn ffansio? Neu wyt ti'n trefnu sesiwn ffilmiau zombie a KFC gwrth-San Ffolant mewn t? ffrind?
Oes gen ti gn ramantus sydd yn ffefryn, neu drac gwrth-San Ffolant hoffet fewnosod isod? Wyt ti wedi cael dy ddympio yn ddiweddar ac felly yn treulio'r diwrnod yn creu dol voodoo o dy gariad cynt?
Mae hwn yn gyfle i ti rannu dy feddyliau ar y dydd mwyaf rhamantus o'r flwyddyn (i fod), da neu ddrwg.
Gad sylwadau, dolenni fideo ac rantiau gwrth-San Ffolant isod