Dy Fyd Di: Beth Wyt Ti'n Feddwl O'n Gwybodaeth?
Helo pawb, mae adolygiad mawr adran gwybodaeth CLIC yn parhau wrth edrych ar ein tudalennau Dy Fyd Di.
Mae'r adolygiad adran gwybodaeth yn edrych os yw ein gwybodaeth 'n cyngor yn gywir, yn gyfoes ac yn berthnasol i chi, darllenwyr a defnyddwyr CLICarlein a'r Gydweithfa CLIC.
Yn hytrach nag ei wneud ein hunain rydym yn gofyn i bobl broffesiynol sydd yn arbenigo ymhob adran ond hefyd rydym yn gofyn am eich adborth chi. Oes unrhyw beth o'i le yn yr adran? Gad i ni wybod. Oes yna fylchau angen eu llenwi? Gad i ni wybod. Efo awgrymiadau ar gyfer sefydliad neu wasanaeth i gysylltu iddo? Gad i ni wybod. Meddwl bod peth ohono yn grt a'r peth gorau ti wedi'i ddarllen erioed? Gad i ni wybod.
Mae yna dair ffordd i roi adborth ar yr adran Dy Fyd Di neu os oes gen ti sefydliad i'w awgrymu.
- Gad sylwad ar yr adran neu isadran berthnasol ar y wefan, fel y byddet ti gydag erthygl, neu o dan yr erthygl yma.
- Trwy'r Gr?p Cenedlaethol CLIC ar Facebook
- E-bostio Sam@CLIConline.org.uk
Mae Dy Fyd Di yn un o'r adrannau mwy od yn ein hadran gwybodaeth; mae'n cychwyn gyda gwybodaeth a chyngor am deithio o gerbydau i fisu, ac yna'n symud ymlaen i bethau fel ymfudo cyn cymryd troad siarp i mewn i ddiwylliant, crefydd a gwleidyddiaeth a gorffen gyda stwff ar geisio lloches. Felly mae'n adran sydd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ar drenau, Seientoleg, blynyddoedd bwlch ac anarchiaeth. Dywedais ei fod yn un eithaf od.
Gall weld yr adran gyfan yma - www.cliconline.co.uk/cym/gwybodaeth/dy-fyd-di - ac mae wedi cael ei rannu i mewn i'r isadrannau yma:
- Cludiant
- Gwyliau a Theithio
- Gweithio
- Byw Dramor
- Diwylliant
- Gwleidyddiaeth
- Crefydd
- Mewnfudo a Cheisio Lloches
Felly... sut mae ein gwybodaeth ar y sbectrwm gwleidyddol? Ydy comiwnyddiaeth yn gallu cael ei esbonio mewn tair brawddeg? Oes angen adran ar deuluoedd brenhinol? Ydy ein gwybodaeth ar Gristnogaeth yn gywir? Dylai'r wybodaeth ar Rastaffari a Zoroastrian rannu tudalen gydag ysbrydegaeth a Seientoleg? Wyt ti eisiau gwybodaeth ar weithio tymhorol? Beth sydd ar goll?
Byddem ni yn wir yn hoffi dy adborth, un ai wedi'i bostio i'r adran berthnasol, neu ar y gr?p Facebook neu os hoffet ti ei wneud yn breifat yna fedri di e-bostio Sam@CLIConline.org.uk
Yr unig beth rydym yn ei ofyn ydy a fyddet ti'n gallu treulio ychydig funudau bob hyn a hyn i edrych ar gwpl o adrannau a gadael i ni wybod os ydy'r wybodaeth yn iawn, os oes gen ti unrhyw newidiadau i'r testun neu os wyt ti'n ymwybodol o unrhyw ddolenni neu fideos. Bydda hyn yn help mawr i ni ac i bobl ifanc Cymru.
Mae croeso mawr i unrhyw ac oll adborth.
Ar y We - Gwybodaeth Diogelwch
Erthyglau Perthnasol:
- Pobl Yn Dy Fywyd: Sut Mae Ein Gwybodaeth?
- Arian: Beth Wyt Ti'n Feddwl O'n Gwybodaeth?
- Iechyd: Beth Wyt Ti'n Feddwl O'n Gwybodaeth?
- Beth Wyt Ti'n Feddwl O'n Gwybodaeth?
Credyd Lluniau: JD Hancock trwy Compfight cc







