Dwi'n Caru Cic-focsio
Cychwynnais gic-focsio pan oeddwn i'n 9 a dwi wedi bod yn cymryd rhan ers 8 mlynedd. Mae'n dda iawn i dy iechyd a dy ffitrwydd. Ti'n cael teithio i lawer o wahanol lefydd ar gyfer ymladd ac i gyfarfod llawer o bobl anhygoel.
Dwi wedi ymladd dros Gymru ac fe ddois yn Bencampwr Cymru. Dwi wedi ymladd cic-focswyr da iawn yn amddiffyn fy nheitl.
Dwi wedi dioddef anafiadau drwg iawn, fel tynnu ysgwydd o'i le, torri fy ffr ddwywaith a thorri fy arddwrn, ond dydy hyn ddim yn cadw fi o ymladd. Dwi bob tro yn dod yn l i ymladd. Mae cic-focsio yn gwneud fi'n gryfach ac yn falch ohonof i fy hun.
Er mod i wedi bod yn gwneud hyn am 8 mlynedd, dwi dal yn ymroddgar i wella bob dydd. Dwi'n hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden STAR yn Y Sblot a hefyd yng Nghanolfan Ffitrwydd Ultimate oddi ar Heol y Ddinas. Fy hyfforddwr ydy James Russell, a fo oedd Pencampwr Prydain ac Ewrop a gafodd ei hyfforddi gan gyn pencampwr y byd.
Am wybodaeth ar sefydliadau chwaraeon a hamdden yng Nghaerdydd, clicia yma.