You are here: Home » Articles » Drag Me To Hell
Drag Me To Hell
Posted by archifCLICarchive from National - Published on 19/07/2009 at 15:12
Ar ddiwedd mis Mai, cafodd y ffilm hon ei rhyddhau yn y DU.
Ffilm ddiweddaraf Sam Raimi ydyw, sef y cyfarwyddwr a ddaeth ? ffilmiau fel Spider-Man a Evil Dead i ni.
Yn y ffilm hon mae Riami wedi dychwelyd i’w genre traddodiadol, sef ffilmiau arswyd.
Mae’r ffilm wedi ei seilio ar chwedl Mecsicannaid, sy’n dweud fod unrhyw un sy’n cael eu melltithio gan sipsiwn yn cael tri dydd cyn iddynt gael eu danfon i Uffern. Yn y ffilm, mae clerc banc diniwed Alison Lohman yn wynebu dewis anodd pan ddaw hen sipsiwn, yn cael ei hactio gan Lorna Raver, i mewn i’r banc yn gofyn am estyniad ar ei forgais.
Ond gyda dyrchafiad mewn golwg, mae’r clerc yn troi cais y sipsiwn i lawr. Mae pethau yn cymryd tro anisgwyl pan mae Mrs Ganush, y sipsiwn yn melltithio Christine Brown, y clerc.
Dros y tridiau nesaf, mae Mrs Ganush yn ymddangos mewn nifer o ffurfiau gwahanol ac afiach i rybuddio Christine o’i ymrwymiad i’r diafol.
Yn y diwedd, mae’n ymweld ?’r dwedwr ffortiwn, Rham Jas (Dileep Rao) er mwyn ceisio darganfod iach?d i’r felltith. Er gwaetha popeth, mae Mrs Ganush yn parhau i ymddangos i Christine.
Ond o’r diwedd mae ateb i’w weld. Ond y cwestiwn mawr yw, a fydd hi’n gallu cwblhau beth sydd angen iddi wneud er mwyn cael gwared ?’r felltith cyn i’r wawr dorri ar y trydydd dydd?
Mae gan y ffilm hon dystysgrif 15 am ei fod yn cynnwys llawer o arswyd ac ychydig o drais.