Diwrnod Gwybodaeth Rŵan Hyn Fi
English version
Heddiw aeth y grŵp golygyddol i Bae Caerdydd i Ganolfan Mileniwm Cymru i fynychu gwahanol weithdai a dysgu pethau.
I gychwyn cawsom de a choffi a bagiau nwyddau wrth fynd mewn, yna roedd yna breg-ddawnsio gan y Cathays B-Boys wedi'i ddilyn gydag araith gan Jeff Cuthbert AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Marco o CLIC.
Aeth fy ffrind Carla a finnau i'r gweithdy animeiddiad clai a gwneud doliau bach clai a phethau fel hynny ac yna gwneud fideo efo nhw, roeddent yn cŵl iawn, edrycha yn y gornel i weld ein fideo. Yna aethom i weithdy gwahanol Robotiaid Arlunio ac roedd yn anhygoel. Roedd gennym ni ddarn hir o wifren copr a gefel ac roedd rhaid plygu nhw i wneud siâp 3D. Yna roeddem yn cysylltu batri a beiro iddo ac roedd yn barod i wneud lluniau!
Yna cawsom ginio a mwynhau peth ohono. Gwyliom The Kix a MCs o Ministry of Life ac yna roedd yn amser mynd adref.
Digwyddiadau – CLIC: Gwybodaeth Rŵan Hyn
Sefydliadau – CCUHP – Gwneud Pethau'n Iawn!
Gwybodaeth – Gwneud Ffilmiau ac Animeiddio
Erthygl Berthnasol – CCUHP: Sut I Animeiddio