Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen

Posted by Dan (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 06/11/2013 at 14:28
0 comments » - Tagged as Health, Topical

  • straen

English version // Yn Saesneg

Mae heddiw yn Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen.

Mae'n debygol dy fod di wedi cael profiad o straen yn dy fywyd. Fel rhywun sydd bob tro'n gadael popeth tan y funud ddiwethaf dwi'n cael profiad ohono yn eithaf aml, a tra gall yr hwb o "O na, mae'r dyddiad cau YFORY?!" yn gallu bod yn ddefnyddiol i ysgwyd fi i wneud rhywbeth, gall straen fod yn beth niweidiol iawn – yn enwedig os yw'n digwydd yn aml.

Mae straen yn un o'r cyflyrau mwyaf cyffredin sydd i gwmpas heddiw: mae'n gallu cyfrannu at salwch corfforol difrifol gan gynnwys gordewdra. Mae Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o beth ydy straen, sut i'w atal, a sut i'w reoli pan mae'n digwydd. Thema eleni fydd 'Going the extra mile' – yn annog sefydliadau i hyrwyddo lles seicolegol a chreu amgylchedd gweithio heb straen fel bod pobl yn gallu perfformio ar eu gorau.

Mae'r wefan yn esbonio, "Os wyt ti'n teimlo'n dda yna ti'n perfformio'n well nag yr wyt ti os wyt ti'n teimlo'n sâl. Mae pobl sydd yn teimlo'n grêt yn aml yn gallu canolbwyntio'n fwy effeithiol ar beth maen nhw eisiau gwneud."

Os wyt ti eisiau dysgu mwy am straen, gan gynnwys awgrymiadau am sut i'w osgoi a sut i ymdopi gydag ef, edrycha ar y canllaw yma gan yr International Stress Management Association.

Cofia fedri di hefyd siarad gyda MEIC am ddim ac yn gyfrinachol 24/7 ar y we, neges testun neu ar y ffôn.


Wyt ti wedi cael dy effeithio gan straen? Wyt ti efo cyngor i rannu? Yna pam ddim gadael sylwad isod, neu gyflwyno erthygl dy hun.


PETHAU DEFNYDDIOL


Erthyglau Perthnasol:

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.