Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Diweddariad Trawsnewid Dros Flwyddyn

Posted by AddictedToDrPepper! from Cardiff - Published on 28/02/2013 at 15:21
0 comments » - Tagged as Culture, Health, People

  • g

English version // Yn Saesneg

Dwi ddim yn sicr o'r union ddyddiad i mi 'ddod allan' ond roedd hi o gwmpas yr amser yma llynedd ac er bod y llun ohonof i ar y dde o fis Hydref, dwi'n hoff iawn ohono.

Mae wedi bod tua blwyddyn ers i mi ddod allan fel gwryw-traws ac roeddwn i eisiau cofnodi hyn a gan fod i wedi bod yn agored ac yn gynhwysol gyda fy siwrne a newidiad, yn enwedig yma ar CLICarlein, meddyliais mai dyma fydda'r ffordd orau.

Dwi eisiau dweud diolch i bawb sydd wedi bod yno i mi dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig Mam, Sophie a phawb yn theSprout a CLICarlein. Byddwn i wir ddim wedi dod mor bell nac yn berson ydw i heddiw heb eich cariad, amynedd a chefnogaeth, felly unwaith eto, diolch enfawr.

Y diweddariad diwethaf i mi wneud oedd pan gefais fy rhwymwr cyntaf yn ôl yn fis Awst, felly mae gen i lawer mwy i ychwanegu i'r rhestr.

Y llun cyntaf oedd ohonof i yn gig Miss May I, Chelsea Grin, Chunk! No Captain Chunk! ac Abandon All Ships yn fis Hydref 2011 a'r ail wedi'i dynnu fis Hydref fel dywedais.

Mae hyn yn anodd iawn i mi, gan fy mod i'n cael yn dysfforig iawn yn edrych ar hen luniau. Fel arfer fedra i ddim edrych ar hen lun ohonof heb sôn am ei bostio yma, ond dwi efo prif ganwr Chunk! No Captain Chunk! felly mae hyn yn ei wneud ychydig yn haws.

Dros y flwyddyn ddiwethaf dwi wedi cyflawni:

  • Addasiad corff cyntaf wrth dorri 20 modfedd oddi ar fy ngwallt (rhoddais ef i Ymchwil Cancr i wneud wigiau a chodi £100 iddynt gan wneud hynny)
  • Dod allan i fy ffrindiau i gyd a rŵan i fy nheulu i gyd
  • Lluchio pob bra a chychwyn defnyddio rhwymwr  dros dro, yna wedyn prynu un iawn gan Underworks ar-lein
  • Dechrau defnyddio'r toiledau anabl yn hytrach na'r rhai merched ac yna o'r diwedd yn codi digon o blwc i ddechrau defnyddio rhai'r bechgyn
  • Cael fy ysgol i gofrestru fi fel Cosmo a gadael i mi ddefnyddio'r toiledau anabl yn yr ysgol
  • Gwneud cais am ariannu ar gyfer Tavistock (sydd yn parhau i fynd)
  • Pasio fel bachgen i ddieithrion
  • Stopio'r rhan fwyaf o hunan-niweidio yn ymwneud â dysfforia
  • Dechrau gallu ymdopi ac ymlacio mwy gyda chamdriniaeth trawsffobig a chael fy ngalw’n rhagenw anghywir
  • Ennill amryw wobr am fy ngwaith yn ymwneud â materion LHDT+
  • Wedi cael erthygl yn y South Wales Echo
  • Ac yn ddiweddar wedi cael yn ôl i mewn i'r ysgol, dwi'n hapus iawn am hyn

Er nad wyf yn yr union le dwi eisiau bod eto, nag mor gryf ac yn gallu ymdopi â hyn i gyd cymaint ag ydwyf yn teimlo y dylwn i, dwi'n falch iawn o fod yn pwy ydw i a beth dwi wedi'i gyflawni a'i oresgyn. Mae gen i ffordd hir i fynd eto ond dwi'n teimlo'n fwy hyderus byddaf yn cyrraedd yno nag yr oeddwn i'r amser yma llynedd ac mae hyn yn ymwneud â'r gefnogaeth a'r cymorth dwi wedi'i dderbyn gan eraill.

Mae eleni yn flwyddyn fawr i mi gan y byddaf yn dechrau cymryd hormonau gwryw unwaith dwi'n troi'n 16 oed a byddaf hefyd yn gallu newid fy enw yn gyfreithiol felly dwi'n hapus iawn am hynny.

Dwi ddim yn gwybod beth arall i ddweud na sut i gau hyn. Ond dwi'n gobeithio bod hyn i gyd yn dystiolaeth i'r rhai sydd ei angen bod pethau yn gwella a ti wir angen aros o gwmpas i weld ac, os dim arall, i fedru dweud, "Dwi wedi'i gwneud hi". Does yr un siwrne na thrawsnewidiad yn hawdd, dwi'n meddwl dwi'n gwybod hynny yn well na neb, ond cred fi pan dwi'n dweud ei fod gwerth y drafferth. Er fy mod i efo amser hir i ddisgwyl nes i mi fedru dweud hynny wrtha i fy hun, dwi'n gobeithio bydda chi i gyd yna i weld fi’n dweud hynny a fy mod i hefyd yno i weld ti'n ei ddweud.

Clicia yma am rai o erthyglau LHDT+ theSprout

TheSproutDirect – Meic

Ar y We – Gwybodaeth Diogelwch

Gwybodaeth – Gwahaniaethu

Gwybodaeth – Hawliau Dynol

Gwybodaeth – Hunan-niweidio

TheSproutDirect.co.uk – Canolfan Rhagoriaeth LHDT – Rhwydwaith Traws Pobl Ifanc

Erthyglau Perthnasol :

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.