Dathlu DY HAWLIAU
Mae’r flwyddyn hon yn nodi 20 mlynedd ers i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu’r UNCRC. Cytundeb rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) sy’n gwarchod hawliau dynol plant.
I ddathlu’r digwyddiad bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal digwyddiad bychan yn y Senedd ar 20 Tachwedd i nodi’r achlysur. Wrth lansio Cynllun Gweithredu’r CCUHP ar gyfer Cymru, Pecyn Adnoddau i Godi Ymwybyddiaeth ynglŷn CCUHP a chystadleuaeth genedlaethol, bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig amrywiaeth o adloniant a gweithdai rhyngweithiol.
Mae’r Pecyn Cymorth yn cael ei ddatblygu a’i beilota gyda grwpiau o bobl ifanc ar hyd Cymru, ac unwaith y daw hyn i ben bydd ar gael i’w lwytho i lawr fel adnodd o wefan, gyda’r manylion yn cael eu cyhoeddi yma yn ystod yr wythnosau nesaf.
Am fwy o wybodaeth am y CCUHP dilyna'r ddolen hon.