Dathliad Diwylliant Sipsi
English version
Roedd disgwyliadau mawr o Fis Hanes Sipsi, Roma a Theithwyr 2010 ar l mis llwyddiannus iawn yn 2009.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yr atyniad ymwelwyr poblogaidd, yr Adeilad Pierhead yn Bae Caerdydd. Gyda'r drysau yn agor am 10.30yb roedd yn gychwyn buan i'r mwyafrif, ond roedd pobl yno beth bynnag am ddangosiad buan y ffilm Coming To The UK, ffilm Pavee Ceilidh. Roedd cynulleidfa'r digwyddiad hwn yn amrywiaeth eang o oed, rhyw a chefndir, gyda nifer o wahanol ddiwylliannau a thraddodiadau i gyd yn yr un ystafell.
Roedd rhaglen y digwyddiad yn cwmpasu dros bedair awr o adloniant oedd yn cynnwys act syrcas, dawnsio Gwyddelig a hip-hop a deuawd acordion yn ystod amser cinio.
Mae beth gychwynnodd fel digwyddiad bach yn 2009 bellach wedi tyfu i mewn i'r Adeilad Pierhead fod yn llawn a bron yn orlawn. Nid y perfformwyr oedd yr unig atyniad tu mewn i'r adeilad, gan fod yr ystafell wedi'i addurno gydag amryw bosteri ac arwyddion yn cyflwyno beth oedd wedi digwydd ers y Mis Hanes Sipsi, Roma a Theithwyr diwethaf a'r datblygiadau sydd wedi digwydd dros y flwyddyn gan y cwmnoedd oedd yn ceisio hyrwyddo eu gwasanaethau ymhellach yn y digwyddiad 2010.
Siaradais gydag un o drefnwyr y digwyddiad oedd yn dweud "Nid allwn ddychmygu byddai'r digwyddiad mor llwyddiannus ag y mae wedi bod heddiw", oedd yn wir, gan nad oedd seddi ar gael yng nghanol yr ystafell, ac roedd pobl yn gorfod sefyll ond roedd pawb yn canolbwyntio ar y brif ardal perfformio. Daeth Kathleen Cassidy i'r llwyfan i berfformio ei dawnsio Gwyddelig ac roedd y dorf yn frwdfrydig iawn, yn clapio'n hapus gyda'r gerddoriaeth sydyn a chynhyrfus y ffidl. Dilynwyd hyn gyda Daniel Flynn yn perfformio dawns hip-hop i gerddoriaeth rap trwm oedd yn gyferbyniad o berfformiad Kathleen cynt.
Cafwyd hefyd mwy o berfformiadau perthnasol i Fis Hanes Sipsi, Roma a Theithwyr dros gyfnod y dydd. Wrth i'r digwyddiad dorri am ginio, cafwyd deuawd o chwaraewyr acordion Roma traddodiadol yn chwarae sioe 30 munud ac roedd pobl ar eu traed, yn cymeradwyo erbyn iddynt orffen.
Cafwyd ffurfiau eraill o adloniant traddodiadol yn hwyrach y diwrnod hwnnw, wrth i'r gerddoriaeth byw Roma ddod i derfyn, arddangosodd sipsiwn lleol eu sgiliau yn creu blodau, gwehyddu basgedi a dweud ffortiwn, oedd yn sefyll allan fel mwy o berfformiad rhyngweithiol oedd yn ymrwymo'r gynulleidfa.
Roedd digwyddiad Mis Hanes Sipsi, Roma a Theithwyr yn llwyddiant enfawr, yn fwy nag yr oedd wedi disgwyl, hyd yn oed pan roedd disgwyliadau yn uchel beth bynnag. Yn siarad gyda mynychwr h?n yn y digwyddiad, dywedodd "Fe ddois lynedd, ac roedd yn wych, ond mae eleni yn fwy fyth ac yn fwy poblogaidd".
Gyda gweithgareddau a pherfformiadau yn llifo roedd yna wastad rhywbeth i wneud. Gan ragori pob disgwyliad eleni, mae Mis Hanes Sipsi, Roma a Theithwyr wedi ennill enw da, fydd yn si?r o gadw ato flwyddyn nesaf yn 2011.
Dilyn y cyswllt am wybodaeth leol ar sefydliadau yng Nghaerdydd.