Darganfod CLIC? Ennill Fflipcam!
Eisiau cyfle i ennill Camera Fideo Fflip ffynci?
Yna gwna'n si?r fod batri dy gamera a / neu ffn clyfar yn llawn
Efallai dy fod di wedi gweld y posteri pinc yn ymddangos ar flychau ffn a byrddau posteri ar draws Gymru gyda'n masgot bach gyda'i ymennydd ar ddangos wrth iddo feddwl am fywyd, y cyfanfyd a phopeth CLIC (os ti ddim, cer draw i Facebook i weld ychydig o esiamplau).
Hoffwn wybod ble ti wedi gweld nhw, felly rydym yn cynnig camera fflip i un enillydd lwcus y gystadleuaeth.
I gystadlu, cymera lun o un neu fwy o'r posteri CLIC a llwytho nhw i'n tudalen Facebook (CLIConline) neu Tweetio nhw i ni (@CLIConline) gan gynnwys enw'r lle cafodd y llun ei dynnu.
Os ti ddim yn defnyddio Facebook nac Twitter gall hefyd e-bostio nhw i ni ar ryan@cliconline.co.uk neu drwy alw 029 2046 2222 am ffyrdd eraill i gystadlu.
Dydd Llun, 30 Ebrill 2012 ydy'r dyddiad cau – a chofia, y mwy ti'n ei weld, y mwy o gyfle fydd gen ti i ennill, ond mae'n rhaid i bob llun ti'n cyflwyno fod o flwch ffn neu leoliad poster gwahanol.
Ond nid dyna'r cyfan! O na. Bydd y pum llun mwyaf creadigol yn cael eu cyhoeddi yn y CLICzine nesaf #7 sydd allan fis Medi (100,000 o gopau yn mynd i bob ysgol, coleg, canolfan ieuenctid a mwy yng Nghymru) ac yn ennill bag nwyddau gyda llwyth o bethau gwych CLIC.
Unrhyw gwestiynau? Gad sylwad isod a phob lwc efo dod o hyd i CLIC yn dy ardal di!