Cystadleuaeth Clipiau Fideo
Mae cystadleuaeth gwneud clipiau fideo wedi agor i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau.
Mae Pupil Voice Wales yn chwilio am gynnwys a syniadau i wneud eu gwefan hyd yn oed yn fwy gweledol a rhyngweithiol, ac i annog ti i rannu dy brofiadau.
Mae’r gystadleuaeth, o’r enw Your Future, Your Feature, yn agored i’r holl blant a phobl ifanc 3 18 oed yng Nghymru.
Gallai dy glipiau fideo fynegi un neu bob un o’r canlynol:
- Sut y credi di y gallet fod mwy o ran yn y gwaith o wneud penderfyniadau yn dy ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid
- Sut wyt wedi gwella neu newid dy amgylchedd dysgu
- Sut y galli di wneud dysgu yn brofiad hwyliog a rhyngweithiol i bawb
Bydda mor greadigol ag y gallet. Gall clipiau fod mewn amrywiaeth o ffurfiau gan gynnwys rhai dogfennol, comedi, defnyddio pypedau neu animeiddio, cerddoriaeth a chaneuon. Y nod yw tynnu dy gynulleidfa i mewn a’u cynnwys yn dy stori neu neges.
Y dosbarthiadau oed yw 3-10 a 11-18 oed. Am fwy o wybodaeth cer i wefan Pupil Voice Wales. Os oes gen ti unrhyw gwestiynau e-bostia CangenHawliau@Wales.gsi.gov.uk.