Welcome to The Sprout! Please sign up or login

Cystadleuaeth #DoligDychmygol

Posted by Megan_ProMo from Cardiff - Published on 03/12/2015 at 14:01
0 comments » - Tagged as Art, Creative Writing, Culture, School Holiday Activities, Yn Gymraeg

  • sprout1

Oes gen ti ddawn gyda geiriau? Hoff o adrodd straeon? Gelli di greu'r Star Wars nesaf?

O heddiw hyd at 25ain Rhagfyr (Dydd Nadolig), rydym ni'n gofyn am eich sgwennu creadigol neu ffilm gorau - am gyfle i ennill cwpl o anrhegion Nadolig i chi eich hun.

Gei di gyflwyno gymaint o ddarnau rwyt ti eisiau, os wyt ti'n dilyn cwpl o reolau:

  1. Mae rhaid i'r darn fod yn "Nadoligaidd"
  2. Cadwch ddarnau ysgrifenedig i tua 250-300 gair ar y fwyaf (hwn yw hyd y rhan fwyaf o'n herthyglau)
  3. Mae rhaid i'ch teitl dechrau gyda "#DoligDychmygol" - neu bydd eich darn ddim yn cael ei ystyried
  4. Os wyt ti am gynnig fideo, ychwanegwch y ddolen i'r erthygl yn y ffordd arferol. Bydd angen i ti llwytho'r fideo i YouTube yn gyntaf.

Bydd yr enillydd yn cael ei chyhoeddi ar Ddydd Llun 4ydd Ionawr - bydd cyfle i bleidleisio am eich hoff ddarn rhwng 25ain Rhagfyr a 3ydd Ionawr.

Mwynhewch!

Llun gan: Leo Reynolds trwy Compfightcc

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.